Newyddion a chyngor

Newyddion

Am yr holl newyddion diweddaraf yng Nghanolfan Tywi

Newyddion a chyngor

Mae hen adeiladau’n wynebu llawer o heriau yn yr amgylchedd sydd ohoni, yn anad dim o ganlyniad i ddefnydd amhriodol o ddeunyddiau adeiladu modern a phwysau i arbed ynni. Gall Canolfan Tywi roi gwybodaeth ysgrifenedig ichi ynglŷn â sut i ofalu am hen adeiladau, ond rydym hefyd yn hapus i’ch cyfeirio at ymchwil, cyngor penodol, cyflenwadau o ddeunyddiau a chronfa ddata o gontractwyr a ddarperir gan sefydliadau eraill. Edrychwch ar y dolenni Cyngor yr ydym wedi’u darparu, neu cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad nad yw’n cael sylw yma.

Os ydych chi’n chwilio am adeiladwr traddodiadol edrychwch ar Gyfeiriadur Contractwyr Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru i ddod o hyd i adeiladwr yn eich ardal chi.

Prosiectau

Mae Prosiectau Canolfan Tywi wedi rhoi cymorth wedi’i dargedu i bobl a chymunedau ledled Cymru i wella treftadaeth y wlad. Nid dim ond ar hen adeiladau yr ydym wedi bod yn canolbwyntio, ond rydym hefyd wedi helpu i wella’r amgylchedd naturiol, tirweddau treftadaeth a threftadaeth ddiwylliannol gyda’r weledigaeth gyffredinol bod treftadaeth Cymru’n cael ei deall a’i mwynhau’n well ac yn cael ei chynnal a’i chadw mewn modd mwy sensitif. 

Mae ein harianwyr wedi cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Sir Gaerfyrddin, CITB, Cadw, Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru. I gael manylion ein prosiectau a’n partneriaethau gweler y dolenni i’n prosiectau sydd gyferbyn.

 

Astudiaethau Achos

Mae 100oedd o bobl wedi cael hyfforddiant ac addysg trwy Ganolfan Tywi dros y 9 mlynedd ddiwethaf. Mae’r canlynol yn ddetholiad yn unig o bobl sydd wedi cael budd o’r hyfforddiant hwn ac sydd wedi defnyddio’u gwybodaeth well i ofal am hen adeiladau Cymru.

Ydych chi’n chwilio am adeiladwr sy’n deall adeiladau traddodiadol?

Sefydliad annibynnol yw Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru sy’n hyrwyddo datblygiad sgiliau adeiladu traddodiadol a materion cynaliadwyedd mewn perthynas â’r holl hen adeiladau ledled Cymru. Mae eu gwefan yn cynnwys cyfeiriadur o adeiladwyr o bob rhan o Gymru sy’n defnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol i atgyweirio hen adeiladau felly os oes arnoch angen dod o hyd i adeiladwr sympathetig yn eich ardal ewch at Gyfeiriadur Contractwyr Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru.

Welsh traditional buildings forum logo