Ymunwch â ni ar gyfer Ffair Adeiladau Cynaliadwy a Thraddodiadol Canolfan Tywi – digwyddiad y flwyddyn! Bydd arbenigwyr, cyflenwyr a chontractwyr yn dod at ei gilydd i'ch helpu i wneud eich cartref yn fwy cynaliadwy.
Oeddech chi'n gwybod? Yng Nghymru, mae ein 1.4 miliwn o gartrefi yn defnyddio 27% o’r holl ynni. Wrth i ni i gyd chwilio am atebion i sut y gallwn wneud addasiadau a gwelliannau i'n cartrefi, gall y wybodaeth ddod yn ddryslyd - cwtogwch ar y dryswch a gadewch inni eich arwain trwy atebion cartref ecogyfeillgar, wrth i ni ddathlu dyfodol gwyrddach a threftadaeth wych ein cenedl. ! Mae’r Ffair yn cynnwys popeth o arbed ynni i arloesiadau ac mae’n ddigwyddiad y gall y teulu cyfan ei fwynhau, gydag adloniant o Circus Eruption!
Adeiladau Traddodiadol:
Gofynnwch am gyngor ymarferol gan arbenigwyr fel plastrwyr calch, seiri maen, a seiri coed traddodiadol. Gwyliwch arddangosiadau sgiliau ymarferol gan ein harbenigwyr a rhowch gynnig arni eich hun! Archwiliwch adeiladau hanesyddol gydag Alex Langlands (Archeolegydd, hanesydd, cyflwynydd teledu, Awdur a Darlithydd Prifysgol) a chael cyngor prosiect gan arbenigwyr cadwraeth. Dewch o hyd i'r deunyddiau gorau gyda samplau o Celtic Sustainables a Chalch Tŷ Mawr.
Adeiladau Cynaliadwy:
Darganfyddwch arferion amgylcheddol gyfrifol gyda Phil Roberts yn rhannu manylion am ddyluniad Ysbyty Canser newydd Felindre sydd wedi ennill gwobr. Dysgwch am adeiladu cynaliadwy a'r defnydd o glai o fewn adeiladu, gyda Roland Keeble o EBUKI a dewch o hyd i ysbrydoliaeth gan gyflenwyr fel Weinerberger.
Cynhyrchu Ynni:
Archwiliwch dechnolegau, gwyliwch arddangosiadau byw, a dysgwch am atebion ynni ar gyfer eiddo hŷn. Sgwrsiwch â chyflenwyr fel Birdshill Rural Renewables am opsiynau ynni adnewyddadwy a’r cyllid sydd ar gael i gefnogi’r newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy. Darganfyddwch adeiladu carbon isel, perfformiad uchel gyda Chanolfan Arloesi Adeiladu Cymru.
Stondinau Masnach:
Cwrdd ag arweinwyr gwella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi Cymru. Cysylltwch â gwahanol gyflenwyr, contractwyr ac arbenigwyr. Edrychwch ar ein gwefan am restr gyflawn.
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad AM DDIM hwn! Mae ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn adeiladau cynaliadwy a thraddodiadol.
Bydd manylion llawn sgyrsiau, arddangosiadau a stondinau masnach ar gael ar ein gwefan
Mae tocynnau ar gael am ddim ar Ticket Source