Dysgu Ar-lein

Dysgu Ar-lein

Croeso i'n tudalen ddysgu ar-lein!

Diolch i brosiect Adeiladu ym Maes Treftadaeth yng Nghymru a ariannwyd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), gallwn gynnig yr adnoddau dysgu gwych hyn i chi am ddim.

Mae pob uned yn cynnig lefel ragarweiniol o wybodaeth a gobeithio y bydd yn eich ysbrydoli i ddatblygu eich dysgu a'ch sgiliau yn y maes hwn.

Y tri modiwl sydd ar gael yw:

  • Cadwraeth hen adeiladau- y rhesymwaith
  • Deunyddiau a dulliau ar gyfer gofalu am hen adeiladau yng Nghymru
  • Arbed ynni ac ôl-osod mewn adeiladau traddodiadol

P'un a ydych yn brentis adeiladu, yn weithiwr adeiladu proffesiynol sy'n newydd i'r maes treftadaeth, neu'n berchennog neu'n geidwad adeilad traddodiadol, fe ddewch o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yn yr unedau hyn.

Os bydd chwant dysgu rhagor arnoch, beth am gofrestru ar gwrs achrededig fel:

  • Dyfarniad lefel 3 Atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn ‘Effeithlonrwydd ynni ac ôl-osod mewn adeiladau traddodiadol’
  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Sgiliau Treftadaeth – Crefftau Saer Pren neu plasto
hecw illustration

Adeiladu ym Maes Treftadaeth yng Nghymru- Cryfhau’r sector drwy hyfforddiant a chymorth.

 

Cyflwynodd y prosiect gyfres o weithgareddau hyfforddi, addysg a rhwydweithio.

Nod y prosiect oedd gwella gallu ac ansawdd y sector drwy ddatblygu cronfa ddyfnach o gwmnïau sydd wedi'u hyfforddi, eu cymhwyso, sy'n gyfredol ac sydd wedi'u cysylltu.             

Roedd y prosiect i fod i bara o fis Mai 2018 tan fis Mehefin 2022 ond daeth i ben ym mis Awst 2020 oherwydd argyfwng Covid-19.

Mae gan bartneriaid y prosiect ddiddordeb cyffredin mewn gwella'r hyfforddiant a'r cymorth a ddarperir yn y diwydiant Adeiladu ym maes Treftadaeth yng Nghymru.

Diolch i CITB am ariannu'r prosiect ac i Cadw am gymorth ariannol ychwanegol.

Cafodd y modiwlau eu dylunio a'u cynhyrchu gan TININT a Chanolfan Tywi.