Beth sydd ymlaen
Mae digwyddiadau, gweithgareddau a chyrsiau Canolfan Tywi wedi'u rhestru isod. Os oes gennych weithgaredd penodol yr hoffech i ni i gyflawni, cysylltwch â ni ac efallai y byddwn yn gallu trefnu hynny ar eich rhan.
Dyfarniad Lefel 3 Mesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer adeiladau hŷn a thraddodiadol
Dydd Mawrth 24- Ddydd Mercher 25 Mis Mai 2022 Canolfan TywiBydd y cwrs 2 ddiwrnod hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i gyfranogwyr o osod mesurau effeithlonrwydd ynni sy'n addas ar gyfer adeiladau traddodiadol hŷn. Bydd yn eu galluogi i asesu arwyddocâd a chyflwr yr adeilad a gwneud penderfyniadau ynghylch pa fesurau a allai fod yn briodol i'w defnyddio mewn amrywiaeth o amgylchiadau.
Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau
Dydd Iau 26 Mis Mai 2022 Canolfan TywiMae ein diwrnod gwybodaeth ‘Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau’ yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion eiddo masnachol neu breswyl. Yn ystod y dydd byddwn yn ymchwilio i berfformiad thermol adeiladau traddodiadol a pha ffactorau all effeithio ar hyn
Cwrs arolygu ac atgyweirio ffenestr godi
Dydd Mawrth 14 Mehefin 2022 Canolfan TywiBydd y cwrs un diwrnod hwn yn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu i gynnal arolygon cyflwr ar ffenestri hanesyddol a phenderfynu faint o waith atgyweirio sydd angen ei wneud. Bydd yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer ceisiadau am Ganiatâd Adeilad Rhestredig gan gynnwys: beth yw arwyddocâd ffenestri hanesyddol; yr elfennau; nodi dadfeiliad a'i achosion; llunio proffiliau; cydnabod faint o waith atgyweirio sydd angen ei wneud; pennu deunyddiau a gorffeniadau; ac ysgrifennu arolygon cyflwr.
Ffenestri codi - gwaith atgyweirio ymarferol
Dydd Mercher 15- Ddydd Gwener 17 Mehefin 2022 Canolfan TywiMae colli ffenestri traddodiadol o'n hadeiladau hŷn yn un o'r prif fygythiadau i'n treftadaeth. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar atgyweirio ffenestri codi llithrol traddodiadol.
Caniatâd Adeilad Rhestredig: gwneud cais
Dydd Iau 16 Mehefin 2022 CWRS AR LEINMae'r cwrs un diwrnod hwn ar gyfer perchnogion adeiladau rhestredig sy'n ystyried gwneud cais am Ganiatad Adeilad Rhestredig. Bydd yn rhoi amlinelliad o'r broses ganiatad, gan gynnwys pan fo angen cael caniatad i wneud newidiadau i'ch adeilad rhestredig; egluro dogfennau allweddol y cais a thrafod y manyldeb a'r safon sydd eu hangen; a bydd yn eich helpu i ddewis gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu ac yn eich cyfeirio at wybodaeth ychwanegol.
Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau
22/06/2022 Canolfan TywiMae ein diwrnod gwybodaeth 'Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau' yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion eiddo masnachol a phreswyl hŷn.
Dyfarniad Lefel 3 Atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol (Cyn 1919)
13 & 14 Medi 2022 Canolfan Tywi, LlandeiloMae’r cwrs hwn yn darparu dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau cyn-1919 yn briodol, a’r sialensiau sy’n gysylltiedig â hyn.
Mae’r cwrs yn darparu cymysgedd cytbwys o gynnwys ymarferol a theori
Plastro a phwyntio ymarferol â chalch ar gyfer perchnogion tai
Dydd Gwener 23 Mis Medi 2022 Canolfan TywiEr bod angen i weithiwr proffesiynol ym maes plastro treftadaeth gyflawni tasgau mawr yn aml, caiff gwaith atgyweirio ei gyflawni'n aml gan berchennog yr adeilad. Yn y cwrs un diwrnod hwn sy'n ymarferol yn bennaf , byddwch yn dysgu hanfodion profi eich morterau presennol; dewis agregau a chalch priodol; cymysgu; a gwaith plastro a phwyno.
Gwella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau traddodiadol (hŷn)
Dudd Iau 29 Mis Medi 2022 Canolfan TywiMae ein diwrnod gwybodaeth ‘Effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau traddodiadol’ yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion eiddo masnachol neu breswyl. Yn ystod y dydd byddwn yn ymchwilio i berfformiad thermol adeiladau traddodiadol a pha ffactorau all effeithio ar hyn
Caniatâd Adeilad Rhestredig: gwneud cais
Dydd Gwener 7 Hydref 2022 Ar-leinMae'r cwrs un diwrnod hwn ar gyfer perchnogion adeiladau rhestredig sy'n ystyried gwneud cais am Ganiatad Adeilad Rhestredig. Bydd yn rhoi amlinelliad o'r broses ganiatad, gan gynnwys pan fo angen cael caniatad i wneud newidiadau i'ch adeilad rhestredig; egluro dogfennau allweddol y cais a thrafod y manyldeb a'r safon sydd eu hangen; a bydd yn eich helpu i ddewis gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu ac yn eich cyfeirio at wybodaeth ychwanegol.