Cyfeiriad

Canolfan Tywi

Fferm Dinefwr

Llandeilo

Sir Gar

SA19 6RT

 

Rhif Ffôn

Nell 07929770732/ Helena 07929770743/ 01558 824271

Cyfarwyddiadau

Mae Canolfan Tywi wedi’i lleoli yn Fferm Dinefwr ym Mharc Dinefwr ar gyrion Llandeilo. Fodd bynnag, ni allwch gyrraedd y Ganolfan trwy fynd i mewn i’r parc trwy’r brif fynedfa i Dŷ Newton a Chastell Dinefwr.

O’R A40 ar ffordd osgoi Llandeilo

  • Ar y gyffordd groesgam (sydd ag arwydd yn dynodi White Hart Inn / Parc Dinefwr / Llandeilo) trowch i’r dde i mewn i Heol Caerfyrddin.
  • Cymerwch y tro cyntaf ar y Dde (sydd ag arwydd yn dynodi Dim Ffordd Drwodd). Yr hen A40 yw hon.
  • Fferm Dinefwr yw’r ail grŵp o adeiladau ar y Chwith
  • Parciwch yn y Maes Parcio ar y Chwith a dilynwch y llwybr at Ganolfan Tywi trwy’r porth bwaog.
  • Maes Parcio Gorlif ar y dde
  • O dref Llandeilo
  • Ewch heibio’r brif fynedfa i Barc Dinefwr ar y chwith
  • Ar ôl cae rygbi Cae William (ar y chwith) a’r White Hart Inn (ar y dde), trowch i’r Chwith (sydd ag arwydd yn dynodi Dim Ffordd Drwodd)
  • Fferm Dinefwr yw’r ail grŵp o adeiladau ar y Chwith
  • Parciwch yn y Maes Parcio ar y Chwith a dilynwch y llwybr at Ganolfan Tywi trwy’r porth bwaog.
  • Maes Parcio Gorlif ar y dde