Roedd y prosiect hwn yn rhaglen leoliad fer ar gyfer sgiliau adeiladu treftadaeth, a ariannwyd gan Cadw.
Darparodd y prosiect raglen gynefino 3 diwrnod mewn adeiladu treftadaeth i 7 myfyriwr, ac yna 4 wythnos o brofiad adeiladu ymarferol, naill ai gyda thîm Cadwraeth neu yn Sain Ffagan. Wedi hynny, cafodd y myfyrwyr gyfle i ymgymryd â Dyfarniad Lefel 3 mewn Atgyweirio a Chynnal a Chadw Adeiladau Traddodiadol (a godwyd cyn 1919).
Roedd yr holl fyfyrwyr yn ddi-waith ar ddechrau'r rhaglen, gyda mwy na hanner yn dod o grwpiau neu ardaloedd dan anfantais. Mwynhaodd yr holl gyfranogwyr eu hamser ar y rhaglen; llwyddodd 2 i gael gwaith yn y diwydiant treftadaeth, ac adroddodd 3 arall eu bod wedi defnyddio eu sgiliau treftadaeth yn y gweithle ar ôl i'r rhaglen profiad gwaith ddod i ben.
Gellir darllen gwerthusiad y rhaglen yma.