Wedi'i ariannu gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 – a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig – ynghyd â Chyngor Sir Caerfyrddin, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Roedd y Cynllun Grantiau Tirwedd a Threftadaeth yn rhaglen grantiau bach, a oedd ar gael i sefydliadau cymunedol a pherchnogion tir yn Sir Gaerfyrddin a oedd yn dymuno datblygu asedau treftadaeth y rhanbarth.
Roedd Grantiau Tirwedd a Bioamrywiaeth ar gyfer gwariant cyfalaf o hyd at £5,000 i wella tirwedd a bioamrywiaeth. Roedd yr elfen hon o'r rhaglen yn dyrannu ac yn gweinyddu grantiau i berchnogion tir a ffermwyr, gan eu galluogi i adfer, creu, gwella a chadwraethu cynefinoedd, bioamrywiaeth a thirwedd. Roedd hefyd yn cefnogi gweithredoedd i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau, yn unol â'r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP). Dyrannwyd 22 o grantiau, gyda chyfanswm gwerth o £92,901.
Roedd y rhaglen Grantiau Treftadaeth Ddiwylliannol yn cynnig grantiau o rhwng £1,000 a £15,000 i grwpiau a sefydliadau cymunedol. Roedd y grantiau'n cefnogi gweithgareddau a oedd yn hyrwyddo ac yn dathlu nodweddion diwylliannol unigryw Sir Gaerfyrddin. Dosbarthwyd cyfanswm o £519,101 i 55 o brosiectau. Gellir gweld manylion y prosiectau ar wefan Prosiectau Treftadaeth Sir Gaerfyrddin.