Gwneud newidiadau mewn Ardaloedd Cadwraeth

Ar-Lein

Dydd Iau 25 Ebrill a Dydd Llun 29 Egrill 2024
AM DDIM

Seminar Ar-lein i Fusnesau a Pherchnogion Tai yn Sir Gaerfyrddin a ddarperir gan Dîm Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin.

Bydd y sesiynau hyn yn cwmpasu:

Pam fod Ardaloedd Cadwraeth yn arbennig
Pan fydd angen Caniatâd Cynllunio ar gyfer newidiadau
P'un a ganiateir paneli solar neu fesurau effeithlonrwydd ynni eraill ai peidio
Os gellir gwneud newidiadau i ffenestri a drysau
Ble i gael rhagor o wybodaeth

Os ydych yn berchennog tŷ, archebwch eich lle ar y seminar ar gyfer datblygiadau i Anheddau Domestig ddydd Iau 25 Ebrill 6.30-8.00pm

 

Os ydych yn rhedeg busnes o’ch eiddo, archebwch eich lle ar y seminar ar gyfer Adeiladau Masnachol ddydd Llun 29 Ebrill 6.30-8.00pm