Ffenestri traddodiadol - arolygon a chynhyrchu adroddiadau cyflwr

Canolfan Tywi

Dydd Mercher 9 Hydref 2024
dim tâl neu £176

Mae’r cwrs ar 9 Hydref 2024 wedi’i ariannu’n llawn i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Gaerfyrddin a’r Rhanbarth, diolch i Gyllid Ffynant y Bro Llywodraeth y DU. Nid yw'r cwrs ar y 15fed o Ebrill yn cael ei ariannu ac felly bydd yn costio £176 i'w fynychu. Os hoffech fynychu'r cwrs ar y 9fed o Hydref, sgroliwch i lawr i gwblhau'r ffurflen gais. Os hoffech fynychu ar 15 Ebrill, dilynwch y botwm 'Book Now' isod. Diolch.

Bydd y cwrs 1 diwrnod hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu i gynnal arolygon cyflwr ar ffenestri hanesyddol a phenderfynu ar faint o waith atgyweirio sydd ei angen arnynt.

Bydd yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer ceisiadau am Ganiatâd Adeilad Rhestredig yn cwmpasu:

- arwyddocâd ffenestri hanesyddol.
- y cydrannau.
- adnabod pydredd a'i achosion.
- tynnu proffiliau.
- cydnabod maint y gwaith atgyweirio sydd ei angen.
- nodi deunyddiau a gorffeniadau.
- ysgrifennu arolygon cyflwr.
Ymunwch â ni i ddysgu sut i gadw swyn a dilysrwydd ffenestri pren traddodiadol am genedlaethau i ddod.

I gofrestru eich diddordeb ar gyfer y cwrs hwn, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen isod.

Gan fod y lleoedd yn gyfyngedig, byddant yn cael eu blaenoriaethu i benseiri, contractwyr, seiri coed sy'n frwd dros gynnal treftadaeth bensaernïol ffenestri pren yng Nghymru.

I gadw lle ar y cwrs ar Ddydd Iau 15 Ebrill 2025 cliciwch ar y botwm isod. Y gost yw £176.

Book now  

 

Os na allwch ymuno â ni ar y cwrs, gobeithiwn y bydd y ffilm fer hon yn ysbrydoledig ac yn ddefnyddiol i chi.