Ffenestri codi traddodiadol: gofalu, atgyweirio ac uwchraddio

Canolfan Tywi

Dydd Iau 18 Ionawr
dim tâl

Trosolwg

Mae’r cwrs undydd hwn yn rhoi cyflwyniad i ffenestri codi llithro traddodiadol ac yn edrych ar rai diffygion cyffredin ac atgyweiriadau syml ynghyd â ffyrdd o wella effeithlonrwydd thermol ffenestri pren heb droi at ffenestri newydd.

Pwy ddylai fynychu?

Unrhyw un sy'n gyfrifol am atgyweirio a chynnal a chadw ffenestri traddodiadol - yn enwedig perchnogion tai a cheidwaid adeiladau.

Cynnwys y Cwrs

- Hanes byr o ffenestri
- Cynnal ffenestri - adnabod problemau cyffredin,
- Trwsio ffenestri pren
- Ffenestri newydd
- Uwchraddio thermol
- Caniatadau
- Ble i gael cyngor.

I gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn, cwblhewch y ffurflen isod neu e-bostiwch canolfantywicentre@sirgar.gov.uk
Nid oes tâl am y cwrs hwn diolch i gyllid gan Llywodraeth y DU - wedi'i yrru gan Ffyniant Bro.

Ffenestri codi traddodiadol: gofalu, atgyweirio ac uwchraddio

Rydym yn defnyddio'r data personol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon ar gyfer gweinyddu'r rhaglen hyfforddi, casglu ffioedd os yw'n briodol, a monitro eich cynnydd a'ch canlyniadau (fel ennill cymwysterau). Gellir ei ddefnyddio hefyd mewn crynodebau ystadegol a chyhoeddiadau ymchwil, lle bydd yn ddienw ac ni chewch eich enwi. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu a rheoli’r hyfforddiant ac unrhyw restrau aros cysylltiedig. Felly, y sail gyfreithiol dros wneud hynny yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd. Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon ag unrhyw un o wasanaethau eraill y Cyngor na sefydliad allanol. Byddwn yn cadw eich data personol am 1 flwyddyn oni bai eich bod yn cydsynio i’ch manylion gael eu cynnwys yn ein Rhestr Postio am fwy o amser.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau ac i gael manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data, ewch i’n gwefan: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/diogelu-data/