Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau
Canolfan Tywi
26 Mai 2022 // 22 Mehefin 2022// 29 Medi 2022
Am ddimRhwng y cynnydd mewn prisiau ynni a'r targedau uchelgeisiol a osodwyd ar gyfer carbon sero-net, mae gwneud ein hadeiladau'n fwy ynni-effeithlon yn brif flaenoriaeth i lawer ohonom.
Mae ein diwrnod gwybodaeth 'Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau' yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion eiddo masnachol a phreswyl hŷn. Yn ystod y dydd byddwn yn ymchwilio i berfformiad thermol adeiladau traddodiadol a pha ffactorau a all effeithio ar hyn, er enghraifft cyflwr yr adeilad, cynnwys lleithedd a deunyddiau a dulliau adeiladu.
Byddwn yn trafod y newidiadau syml y gellir eu gwneud yn gyflym ac yn hawdd yn ogystal â'r ymyriadau mwy sylweddol megis inswleiddio waliau. Trafodir manteision ac anfanteision opsiynau ynghyd â Chyfreithiau a Rheoliadau a allai effeithio ar eich dewisiadau.
Defnyddir astudiaethau achos ac enghreifftiau a bydd digon o gyfle i drafod ac i holi cwestiynau.