Dyfarniad lefel 3 Atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol

Neuadd y Farchnad Caergybi

15 & 16 Gorffennaf 2024
Cyllid PLA ar gael

Trosolwg
Mae'r cwrs achrededig hwn yn ychwanegiad anhepgor i bortffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu neu adeiladu treftadaeth. Trwy sesiynau theori ac ymarferol, mae'r cwrs yn cwmpasu'r meysydd gwybodaeth mwyaf hanfodol sy'n ofynnol cyn gweithio ar hen adeiladau. Mae'r tiwtoriaid gwybodus a phrofiadol yn defnyddio ymweliadau â safleoedd ac arddangosiadau ymarferol i alluogi'r ymgeiswyr i roi'r hyn y maent yn ei ddysgu yng nghyd‐destun bywyd go iawn.
Gellir addasu'r hyfforddiant i ganolbwyntio ar faes crefft penodol megis gwaith saer, plastro neu waith maen neu gall fod yn fwy cyffredinol, gan ddibynnu ar ofynion y grŵp o ymgeiswyr.
Crynodeb o'r cynnwys
•Arwyddocâd a chynaliadwyedd ‐ pam fod hen adeiladau yn bwysig i'n gorffennol, ein presennol a'n dyfodol
•Mecaneg hen adeiladau
•Calch a'r gallu i waliau anadlu
•Arddangosiadau ymarferol yn ymwneud â gwyddor calch, mathau o galch, cymysgeddau ac agregau
•Diffygion mewn adeiladau ‐ achosion a deunyddiau a dulliau priodol i'w hatgyweirio
•Diffygion mewn adeiladau ‐ ymweliadau safle i edrych ar enghreifftiau da ac enghreifftiau gwael o waith atgyweirio
•Deddfwriaeth, diffiniadau a rolau
•Cynllunio gwaith ar adeilad hanesyddol
•Technegau ymchwilio arbenigol
•Egwyddorion newid
•Adeiladau carbon isel a hanesyddol
Pwy ddylai fynd ar y cwrs?
Mae'r hyfforddiant hwn yn addas i unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu neu adeiladu treftadaeth, gan gynnwys contractwyr a manylebwyr.

.

Cofrestrwch eich diddordeb

Rydym yn defnyddio'r data personol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon ar gyfer gweinyddu'r rhaglen hyfforddi, casglu ffioedd os yw'n briodol, a monitro eich cynnydd a'ch canlyniadau (fel ennill cymwysterau). Gellir ei ddefnyddio hefyd mewn crynodebau ystadegol a chyhoeddiadau ymchwil, lle bydd yn ddienw ac ni chewch eich enwi. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu a rheoli’r hyfforddiant ac unrhyw restrau aros cysylltiedig. Felly, y sail gyfreithiol dros wneud hynny yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd. Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon ag unrhyw un o wasanaethau eraill y Cyngor na sefydliad allanol. Byddwn yn cadw eich data personol am 1 flwyddyn oni bai eich bod yn cydsynio i’ch manylion gael eu cynnwys yn ein Rhestr Postio am fwy o amser.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau ac i gael manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data, ewch i’n gwefan: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/diogelu-data/