Ffenestri traddodiadol - arolygon a chynhyrchu adroddiadau cyflwr

Canolfan Tywi

Dydd Llun 22 Ebrill- Dydd Mercher 9 Hydref 2024
dim tâl

Bydd y cwrs 1 diwrnod hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu i gynnal arolygon cyflwr ar ffenestri hanesyddol a phenderfynu ar faint o waith atgyweirio sydd ei angen arnynt.

Bydd yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer ceisiadau am Ganiatâd Adeilad Rhestredig yn cwmpasu:

- arwyddocâd ffenestri hanesyddol.
- y cydrannau.
- adnabod pydredd a'i achosion.
- tynnu proffiliau.
- cydnabod maint y gwaith atgyweirio sydd ei angen.
- nodi deunyddiau a gorffeniadau.
- ysgrifennu arolygon cyflwr.
Ymunwch â ni i ddysgu sut i gadw swyn a dilysrwydd ffenestri pren traddodiadol am genedlaethau i ddod.

I gofrestru eich diddordeb ar gyfer y cwrs hwn, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen isod.

Gan fod y lleoedd yn gyfyngedig, byddant yn cael eu blaenoriaethu i benseiri, contractwyr, seiri coed sy'n frwd dros gynnal treftadaeth bensaernïol ffenestri pren yng Nghymru.

Os na allwch ymuno â ni ar y cwrs, gobeithiwn y bydd y ffilm fer hon yn ysbrydoledig ac yn ddefnyddiol i chi.

 

 

 

Ffenestri traddodiadol - arolygon a chynhyrchu adroddiadau cyflwr

Rydym yn defnyddio'r data personol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon ar gyfer gweinyddu'r rhaglen hyfforddi, casglu ffioedd os yw'n briodol, a monitro eich cynnydd a'ch canlyniadau (fel ennill cymwysterau). Gellir ei ddefnyddio hefyd mewn crynodebau ystadegol a chyhoeddiadau ymchwil, lle bydd yn ddienw ac ni chewch eich enwi. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu a rheoli’r hyfforddiant ac unrhyw restrau aros cysylltiedig. Felly, y sail gyfreithiol dros wneud hynny yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd. Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon ag unrhyw un o wasanaethau eraill y Cyngor na sefydliad allanol. Byddwn yn cadw eich data personol am 1 flwyddyn oni bai eich bod yn cydsynio i’ch manylion gael eu cynnwys yn ein Rhestr Postio am fwy o amser.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau ac i gael manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data, ewch i’n gwefan: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/diogelu-data/