Cyrsiau ar Gyfer Cymdeithasau Tai – Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Effeithlonrwydd Ynni Adeiladau Traddodiadol
Amrywiol leoliadau ac ar-lein
Dim prisiau sefydlogCyrsiau ar Gyfer Cymdeithasau Tai – Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Effeithlonrwydd Ynni Adeiladau Traddodiadol
Mae Canolfan Tywi a’r Ganolfan Astudio Amgylcheddol yn darparu hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer Cymdeithasau Tai ledled Cymru a thu hwnt. Mae'r cyrsiau wedi'u cynllunio i gefnogi atgyweirio, cynnal a chadw a gwella effeithlonrwydd ynni yn stoc dai traddodiadol.
Mae pob un o'r cyrsiau wedi'u hanelu at gynulleidfaoedd penodol gan gynnwys:
• Timau llafur uniongyrchol a chrefftwyr arbenigol
• Rheolwyr prosiectau
• Arolygwyr
• Tîm rheoli a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
Darperir y cyrsiau naill ai’n Fyw Ar-lein (LO), Wyneb yn Wyneb (FF) neu’n gyfuniad o’r ddau – Dysgu Cyfunol (BL).
Cwblhewch y ffurflen isod i nodi eich diddordeb mewn unrhyw un o’r cyrsiau, a byddwn yn cysylltu â chi i drafod anghenion a gofynion penodol eich sefydliad.
Am ragor o wybodaeth a manylion am bob un o’r cyrsiau isod, cysylltwch â:
Cyrsiau Canolfan Tywi (TC)
Cyrsiau Canolfan Astudio Amgylcheddol (ESC)