Caniatâd Adeilad Rhestredig: gwneud cais
Ar-lein
29 Mai 2024
£45Mae'r cwrs hwn ar gyfer perchnogion adeiladau rhestredig sy'n ystyried gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig. Bydd yn rhoi amlinelliad o'r broses ganiatâd, gan gynnwys pan fo angen cael caniatâd i wneud newidiadau i'ch adeilad rhestredig; egluro dogfennau allweddol y cais a thrafod y manyldeb a'r safon sydd eu hangen; a bydd yn eich helpu i ddewis gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu ac yn eich cyfeirio at wybodaeth ychwanegol.
Dyma ychydig o adborth gan gynrychiolwyr ein cyrsiau:
'Cyflwynwyd y cwrs gan Nell ar-lein. Fe'i cynlluniwyd mewn ffordd yr oedd pob un o'r pedair sesiwn yn ddigon hir i gwmpasu gwybodaeth, arweiniad ac argymhellion defnyddiol, ond yn ddigon byr i osgoi blinder ar y sgrin. Roedd pob sesiwn yn caniatáu trafodaeth ryngweithiol. Roedd hyd yr egwyliau rhyngddynt wedi helpu i adnewyddu ac ail-wefru. Cyflwynodd Nell mewn modd a ddangosodd pa mor angerddol yw hi am dreftadaeth a hefyd pa mor gefnogol yw hi a'i chydweithwyr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a Chanolfan Tywi i'r rhai sy'n berchen ar Adeiladau Rhestredig. Rwy'n argymell y cwrs yn gryf .'- Richard Neil 12/10/2020
'Cwrs defnyddiol iawn os ydych chi'n berchen ar adeilad rhestredig neu'n ystyried prynu. Gwnewch y cwrs hwn cyn i chi brynu adeilad rhestredig os gallwch chi - bydd yn gwneud y siwrnai gyfan gymaint yn haws ac yn llai o straen. ' Emma Tanner 05/09/2020
I archebu'ch lle ar y cwrs hwn, cliciwch y botwm BOOK NOW perthnasol neu cysylltwch â ni ar 07920770732
Mae Canolfan Tywi yn cyflwyno rhaglen gyffrous o hyfforddiant ac addysg sgiliau traddodiadol fel rhan o Gysylltiadau Hynafol – prosiect celfyddydau a threftadaeth trawsffiniol sy’n cysylltu Wexford a Sir Benfro.
I gael rhagor o fanylion am Gysylltiadau Hynafol ewch i'r wefan https://ancientconnections.org/?lang=cy