Ffenestri traddodiadol - arolygon a chynhyrchu adroddiadau cyflwr
Canolfan Tywi
Dydd Llun 22 Ebrill- Dydd Mercher 9 Hydref 2024
dim tâlBydd y cwrs 1 diwrnod hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu i gynnal arolygon cyflwr ar ffenestri hanesyddol a phenderfynu ar faint o waith atgyweirio sydd ei angen arnynt.
Bydd yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer ceisiadau am Ganiatâd Adeilad Rhestredig yn cwmpasu:
- arwyddocâd ffenestri hanesyddol.
- y cydrannau.
- adnabod pydredd a'i achosion.
- tynnu proffiliau.
- cydnabod maint y gwaith atgyweirio sydd ei angen.
- nodi deunyddiau a gorffeniadau.
- ysgrifennu arolygon cyflwr.
Ymunwch â ni i ddysgu sut i gadw swyn a dilysrwydd ffenestri pren traddodiadol am genedlaethau i ddod.
I gofrestru eich diddordeb ar gyfer y cwrs hwn, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen isod.
Gan fod y lleoedd yn gyfyngedig, byddant yn cael eu blaenoriaethu i benseiri, contractwyr, seiri coed sy'n frwd dros gynnal treftadaeth bensaernïol ffenestri pren yng Nghymru.
Os na allwch ymuno â ni ar y cwrs, gobeithiwn y bydd y ffilm fer hon yn ysbrydoledig ac yn ddefnyddiol i chi.