Amdanom ni

Ein Hamcanion

Amcanion Canolfan Tywi yw sicrhau bod pawb sy’n gyfrifol am ofalu am hen adeilad neu weithio ar hen adeilad yn meddu ar yr wybodaeth gywir, y sgiliau cywir a’r deunyddiau cywir ar gyfer gwneud atgyweiriadau sensitif a phriodol. Bydd hyn yn sicrhau bod hen adeiladau Gorllewin Cymru, yn rhai rhestredig a heb eu rhestru, o gwmpas am 100 mlynedd arall a mwy. 

Y safle

Mae Canolfan Tywi wedi’i lleoli yn Fferm Dinefwr, Llandeilo. Grŵp rhestredig Gradd II o sguboriau ydyw, sef Home Farm ar Ystâd Tŷ Newton yn wreiddiol, sy’n cael ei redeg bellach gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae gennym gyfleusterau ystafell ddosbarth a gallwn dderbyn 20 o bobl ar gwrs neu mewn cyfarfod, ac mae gennym ardal ar gyfer arddangosfeydd am hen adeiladau. Mae gennym hefyd gyfres o gyfleusterau hyfforddiant sgiliau arbenigol; gweithdy Plastro lle gall myfyrwyr ddysgu am blastro ar ddellt a chreu mowldiau rhedeg; cysgodfan awyr agored i ymarfer technegau rendro allanol; gweithdy Gwaith Coed, sy’n ddigon mawr ar gyfer gweithio ar ffenestri codi ac atgyweiriadau i fframiau pren; a lle i ddarparu hyfforddiant mewn caregwaith.

Y gwasanaethau

Rydym yn gweithio gyda pherchnogion hen adeiladau rhestredig a heb eu rhestru, gyda chontractwyr treftadaeth a chontractwyr eraill, gyda cholegau ac elusennau lleol – a dweud y gwir, unrhyw un sy’n dymuno gofalu am hen adeiladau yng Nghymru. Gallwn ddarparu ‘cymorthfeydd’ un-i-un, hyfforddiant mewn cynnal a chadw ac atgyweirio, hyfforddiant sgiliau crefft penodol; taflenni arweiniad; ac anogaeth a chefnogaeth ddiddiwedd.

 

Y Tîm

Nell Hellier

Fi yw’r Uwch Swyddog Treftadaeth Adeiledig yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin ac rwyf wedi bod yn gweithio ym maes cadwraeth adeiladau traddodiadol yng Nghanolfan Tywi ers 2008. Rwy’n byw mewn hen adeilad ac rwyf felly’n gyfarwydd â’r heriau a ddaw yn sgîl hynny! Fi sy’n gyfrifol am reoli Gwasanaethau Treftadaeth Adeiledig y sir a chyflawni holl brosiectau Canolfan Tywi, felly os oes arnoch angen unrhyw hyfforddiant neu wybodaeth gyffredinol am hen adeiladau, cysylltwch â mi os gwelwch yn dda. Os na allaf fi eich helpu byddaf wastad yn hapus i’ch cyfeirio at rywun a fydd yn gallu. Rwyf hefyd yn gweithio ar draws Cymru i hybu’r agenda adeiladau treftadaeth gyda Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru a CADW, ymysg eraill.

Manylion cyswllt:

Ebost: nhellier@sirgar.gov.uk

Ffôn: 07929770732

Helena Burke

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Helena wedi bod yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglenni hyfforddi sgiliau treftadaeth ledled Cymru. Yn ei rôl unigryw fel y Swyddog Sgiliau a Phrosiectau Treftadaeth, mae'n gallu gweithio gyda phobl sy'n rhannu ei hangerdd dros warchod hen adeiladau i gael mynediad at yr hyfforddiant a'r addysg sydd eu hangen arnynt.
Yn flaenorol, roedd Helena yn rheoli’r Rhaglen Hyfforddi Bwrsariaeth a ariannwyd gan HLF sydd wedi gweld dros 100 o bobl yn dod yn gymwysedig mewn sgiliau adeiladu traddodiadol.
Mae Helena yn canolbwyntio ar barhau i ddatblygu cyfleoedd hyfforddi yng Nghymru i sicrhau bod mynediad at y wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i weithio'n briodol treftadaeth anhygoel Cymru ar gael yn rhwydd.

Manylion cyswllt:

Ebost: hburke@sirgar.gov.uk

Ffôn: 07929770743

James Yeandle

James yw Swyddog Treftadaeth Adeiledig Cyngor Sir Sir Gaerfyrddin sy'n gyfrifol am ddiogelu'r amgylchedd adeiledig hanesyddol gan gynnwys 1,950 o adeiladau rhestredig a 27 ardal gadwraeth. Os oes gennych adeilad rhestredig ac angen gwneud cais am gydsyniad i wneud newidiadau i'ch adeilad, bydd angen i chi gysylltu â James.

Mae gan James Ddiploma Ôl-raddedig mewn Cadwraeth yr Amgylchedd Hanesyddol ac mae wedi bod yn gweithio i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ers dros 10 mlynedd. Mae ganddo aelodaeth broffesiynol lawn i'r Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol.

Gallwch ddarganfod mwy am sut i edrych ar ôl eich adeilad rhestredig trwy ymweld â gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Manylion cyswllt:

Ebost: jyeandle@sirgar.gov.uk

 

Tom Duxbury

Gyda dros 30 mlynedd yn y diwydiant adeiladu, mae gan Tom gyfoeth o wybodaeth a phrofiad i dynnu arno. Yn ddiweddar, mae Tom wedi ennill statws Rheolwr Adeiladu Siartredig MCIOB. Mae ennill y cymhwyster hwn a gydnabyddir yn rhyngwladol yn gyflawniad aruthrol ac yn gydnabyddiaeth o'i wir broffesiynoldeb yn y Maes Adeiladu Treftadaeth.

Mae wedi rhedeg ei fusnes gwaith saer ac adeiladu arbenigol ei hun am 25 o'r blynyddoedd hynny cyn symud i ddarparu hyfforddiant ac asesiadau Lefel 1, 2 a 3 mewn gwaith saer treftadaeth a phlastro ac atgyweirio a chynnal a chadw'r holl adeiladau traddodiadol.

Yn dilyn graddio Tom gyda gradd anrhydedd dosbarth 1af mewn Cadwraeth a Rheolaeth Adeiladu, ymunodd â thîm Canolfan Tywi yn 2012. Mae Tom yn cyflwyno hyfforddiant ymarferol ar safleoedd adeiladu ac mewn sefyllfaoedd gweithdy, yn ogystal â chyflwyno yn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio cyfryngau digidol. Parhaodd ei addysg academaidd ei hun gyda chyrhaeddiad Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol yn 2015, a Thystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu yn 2016.

Ochr yn ochr â hyfforddiant ac asesu Tom, ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Swyddog Cadwraeth ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sydd wedi ei alluogi i hogi ei wybodaeth mewn egwyddorion cadwraeth, polisi a deddfwriaeth.

Manylion cyswllt:

Ebost: tduxbury@sirgar.gov.uk