Yr hyn a wnawn

Pam ein dewis ni

Mae’r tîm yng Nghanolfan Tywi wedi bod yn rhoi cymorth i bobl ofalu am hen adeiladau a’u hatgyweirio am y 9 mlynedd ddiwethaf. Rydym wedi darparu gwybodaeth ysbrydoledig ac addysgiadol sy’n dangos go iawn nad yw gofalu am hen adeiladau’n gymaint o her ag y mae pobl yn ei ddychmygu i ddechrau – wedi’r cwbl, mae llawer o’n hen adeiladau wedi cael gofal digon da i allu parhau i sefyll am 100oedd o flynyddoedd. Dim ond yn y 50 mlynedd ddiwethaf fwy neu lai yr ydym wedi colli rhywfaint o’r wybodaeth honno.

Mae Canolfan Tywi a’n myfyrwyr wedi ennill gwobrau am arfer da ac mae ein hyfforddiant a’n cyngor yn parhau i ddathlu adeiladau a diwylliant Cymru, gan sicrhau bod pawb sy’n dod i Ganolfan Tywi yn gadael gan deimlo’u bod yn warcheidwaid ar ran wirioneddol hyfryd o dreftadaeth Cymru.