Tiwtoriaid Canolfan Tywi yn ennill cymwysterau academaidd

21/10/2020

Mae dau diwtor o'r enw Tom Duxbury a Joe Moriarty wedi ennill cymwysterau academaidd dros yr haf.

Yn gynharach yn 2020, cwblhaodd Joe radd Meistr mewn Cadwraeth Gynaliadwy yn llwyddiannus o Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd. Os oes gennych amser rhydd mae ei draethawd hir yn ddiddorol iawn i'w ddarllen - ‘The mortar particle size and distribution of a Welsh vernacular farmworkers cottage in the parish of Llandeilo Tal y Bont’.

Dechreuodd Joe Moriarty ei yrfa ym maes adeiladu treftadaeth yn ôl yn 2013 pan gwblhaodd y Rhaglen Sgiliau Cymwysedig Arbenigol mewn Plastro Treftadaeth yng Nghanolfan Tywi. Roedd Joe eisoes yn blastrwr profiadol a chymwysedig ond roedd ganddo angerdd am hen adeiladau ac roedd yn dymuno ychwanegu at ei sgiliau a'i wybodaeth yn barhaus. Ar ôl treulio llawer o flynyddoedd yn gweithio ar brosiectau treftadaeth, roedd Canolfan Tywi yn ffodus bod Joe wedi dychwelyd i ymuno â'u tîm o diwtoriaid medrus, profiadol a chymwysedig.

Dywedodd Joe, ‘Mae’n wych bod yn ôl yng Nghanolfan Tywi fel tiwtor. Rwyf wir wedi mwynhau gweithio gyda dysgwyr o Goleg Sir Benfro a dysgwyr sy'n cwblhau eu cymhwyster NVQ3 mewn Plastro Treftadaeth.’

Mae Tom Duxbury, ein Hyfforddwr Arweiniol yng Nghanolfan Tywi, wedi ennill statws fel Adeiladwr Siartredig MCIOB sy'n debyg i radd Baglor. Mae ennill y cymhwyster hwn a gydnabyddir yn rhyngwladol yn gyflawniad aruthrol ac yn gydnabyddiaeth o'i broffesiynoldeb gwirioneddol ym maes Adeiladu Treftadaeth. Cydnabyddir ymroddiad Tom i’r diwydiant ynghyd â’i alluoedd a’i brofiad trwy ddod yn aelod Siartredig.

Esboniodd Tom, ‘Fel tiwtor mae’n hanfodol fy mod yn gwella fy ngwybodaeth a'm sgiliau yn gyson a fy mod yn ymwybodol o newidiadau a datblygiadau'r diwydiant. Mae hyn yn caniatáu i mi rannu’r wybodaeth fwyaf perthnasol a diweddaraf â’m dysgwyr.’

Llongyfarchiadau i'r ddau ohonynt!