Sêl bendith i Gwricwlwm newydd y Coleg Adeiladu

Rhagfyr 2020

Bydd 2021 yn cyflwyno newidiadau newydd cyffrous i'r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru – y mwyaf nodedig yw’r Cwricwlwm Adeiladu newydd a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2021. 

Mae Canolfan Tywi wedi bod yn gweithio'n galed gyda City & Guilds a Chymwysterau Cymru i sicrhau bod gwybodaeth am Adeiladau Traddodiadol yn cael ei chynnwys yn y cyrsiau Sylfaen, Dilyniant a Phrentisiaethau newydd.  Mae'n bleser gennym ddweud, o fis Medi ymlaen, bydd pob myfyriwr newydd ar y cwrs Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, yn cael eu haddysgu am bwysigrwydd adeiladau hanesyddol yng Nghymru (mae’r rhain yn 1/3 o'n stoc tai domestig - sy'n cyfateb i 500,000 o gartrefi), a'r modd mae gofalu ac atgyweirio'r cartrefi hyn yn wahanol i ddulliau adeiladu modern. 

Gofynnwyd i Ganolfan Tywi ddatblygu a chyflwyno Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer Coleg Penfro i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu ein cyrsiau ar-lein rhyngweithiol cyffrous i'w cyflwyno yn y flwyddyn newydd, a chefnogi Colegau i gyflwyno'r cynnwys newydd hwn.