Arddangosodd Canolfan Tywi eu gwaith mewn digwyddiad mawreddog i berchnogion adeiladau rhestredig.

01/11/2019

Arddangosodd Canolfan Tywi eu gwaith mewn digwyddiad mawreddog i berchnogion adeiladau rhestredig.

Rhoddodd Nell Hellier, Uwch Swyddog Treftadaeth Adeiledig Canolfan Twyi, gyflwyniad yn The Listed Property Show - South West a drefnwyd gan The Listed Building Property Owners Club, mewn cydweithrediad â Historic England. Daeth cyflenwyr deunyddiau adeiladu hanesyddol, arbenigwyr a selogion ynghyd o dan yr un to.

Mae'r clwb yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar gynnal a chadw, cyfrifoldebau a rhwymedigaethau perchnogaeth adeiladau gwarchodedig Prydain. Cynhaliwyd y digwyddiad yn The Passenger Shed yng Ngorsaf Bristol’s Temple Meads, rhoddodd gyfle i gasglu mwy o wybodaeth a chyngor arbenigol mewn un diwrnod na thrwy fisoedd o ymchwil bersonol! Daeth y clwb â gorau'r diwydiant at ei gilydd, gan arbed arian, amser a straen i berchnogion adeiladau.

“Aeth y diwrnod yn dda iawn ac roedd pobl o bob rhan o Gymru, Cernyw a Chanolbarth Lloegr yn bresennol,” esboniodd Nell. “Rhoddais gyflwyniad ar galch a pham ei fod yn hanfodol ar gyfer gofalu ac atgyweirio eich adeilad rhestredig.


“Cafodd groeso mawr gyda llawer o gwestiynau perthnasol wedi hynny a chwestiynau pellach pan ddaeth pobl at fy stondin.” Mae Canolfan Tywi yn hyrwyddo gofal ac atgyweirio hen adeiladau Gorllewin Cymru trwy ddarparu gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i berchnogion tai, adeiladwyr, asiantau a gweithwyr adeiladu proffesiynol.