O Nerth i Nerth

27/1/22

Mae Tîm Treftadaeth Adeiledig Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd o nerth i nerth.  Rydym bron wedi cyrraedd ein nifer cyflawn o staff ac rydym yn parhau i ddatblygu rhaglen hyfforddiant Canolfan Tywi i gefnogi holl berchnogion a cheidwaid adeiladau hanesyddol y sir.  Gadewch imi eich cyflwyno i'r tîm.

Matt Pyart yw ein Swyddog Treftadaeth Adeiledig mwyaf newydd ac mae'n ymuno â ni o Sir Benfro. Dechreuodd Matt ei yrfa fel swyddog treftadaeth adeiledig yn Sir Gaerfyrddin – ac mae'n wych i allu ei groesawu'n ôl. Mae James Yeandle wedi bod yn Swyddog Treftadaeth Adeiledig gyda Sir Gaerfyrddin ers dros 12 mlynedd felly mae ganddo gyfoeth mawr o wybodaeth am adeiladau hanesyddol y sir.  Bydd Matt a James yn gyfrifol am eich cynorthwyo gyda chyngor cyn cyflwyno cais ac asesu eich ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig. Joe Moriarty, yr aelod mwyaf newydd o'n tîm, yw'r Swyddog Monitro a Gorfodi: Cynllunio a Threftadaeth Adeiledig.  Mae wedi gweithio gyda'r tîm fel hyfforddwr ymgynghorol ers rhai blynyddoedd felly mae'n wybodus iawn am ddulliau a deunyddiau adeiladu hanesyddol. Yn ei rôl newydd bydd yn gweithio gyda James a Matt i sicrhau bod unrhyw waith i adeiladau rhestredig a'r rhai mewn Ardaloedd Cadwraeth yn cael ei wneud gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau priodol ac wrth sicrhau bod y caniatâd cywir yn ei le.

Helena Burke yw ein Swyddog Sgiliau a Phrosiectau.  Mae hi wedi bod yng Nghanolfan Tywi ers 2008 yn cydlynu gwirfoddolwyr ac yn rhedeg rhaglenni bwrsariaeth sgiliau traddodiadol Canolfan Tywi.  Mae ei rôl yn galluogi pawb sy'n gweithio ar adeiladau hanesyddol neu'n gyfrifol amdanynt i elwa ar hyfforddiant ac addysg Canolfan Tywi, a ariennir gan grantiau i raddau helaeth.

Tom Duxbury yw ein Swyddog Hyfforddiant ac Asesu.  Mae Tom wedi gweithio fel saer treftadaeth, fel syrfëwr, fel swyddog cadwraeth ac fel hyfforddwr, darlithydd ac asesydd.  Mae ganddo ddyfnder o wybodaeth a phrofiad mewn perthynas ag adeiladau traddodiadol ac ar hyn o bryd ef yw prif diwtor ein cwrs.

Nell Hellier yw'r Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig ac mae'n cydlynu'r Gwasanaeth Treftadaeth Adeiledig ar gyfer Sir Gaerfyrddin.  Ei rôl yw sicrhau bod adeiladau Sir Gaerfyrddin yn cael eu gofalu amdanynt, eu hatgyweirio a'u diogelu yn briodol, a bod ceidwaid yr adeiladau hynny'n cael eu cefnogi i ddarparu'r gofal hwnnw.

 

Mae'r Ganolfan Tywi yn cefnogi'r gwasanaethau treftadaeth adeiledig statudol a ddarperir yn Sir Gaerfyrddin, ond mae hefyd yn darparu hyfforddiant ac addysg i gynulleidfaoedd sydd â diddordeb o bob rhan o Gymru. Os oes hen adeilad yr ydych yn gyfrifol amdano ac yn bwriadu gwneud gwaith atgyweirio arno, cysylltwch â ni ac mae'n ddigon posibl y gallwn gynnig rhywfaint o hyfforddiant, cymorth neu gyngor i chi.