Meithrin cysylltiadau: hyfforddiant, profiad a rhwydweithio

22/06/23

Meddyliwch am brosiect hyfforddi pedair wythnos anhygoel o'r enw "Cysylltiadau Hynafol - Hyfforddiant Sgiliau Treftadaeth" a oedd â'r nod o ddarparu profiad dysgu cynhwysfawr a ymdrwythol ym meysydd gwaith cerrig, plastro â chalch, a gwaith coed traddodiadol. Dyluniwyd y prosiect hwn i roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gyfranogwyr ddechrau ar eu taith ym maes adeiladu treftadaeth.

Roedd y prosiect yn llwyddiant ysgubol diolch i'r dysgwyr gwych - Brandon, Louis a Brandon o Sir Benfro a Robert, Denny a Jorge o Wexford.  Ac mae'r bartneriaeth yn gweithio gyda Chanolfan Tywi, Oliver Coe, Hwb Cyfle Ar y Safle, a Chyngor Sir Wexford. 

Yn ystod wythnos gyntaf y rhaglen, bu'r dysgwyr yn ymchwilio i'r grefft o waith maen cerrig. Gwnaeth y prif saer maen Oliver Coe eu harwain nhw drwy'r broses o ddewis a gweithio gyda gwahanol fathau o garreg. Cafodd y dysgwyr gyfle i weithio ar brosiectau ar raddfa fach, megis wal gerrig sych, cymysgu ac adeiladu gyda morter, pwyntio, gwyngalchu ac adeiladu bwa, gan feithrin eu hyder a'u dealltwriaeth o'r grefft yn raddol.

Roedd yr ail wythnos yn canolbwyntio ar y sgil cymhleth o blastro â chalch. Dysgodd y cyfranogwyr am arwyddocâd hanesyddol plastr calch a'i ddefnydd o ran cadw a gwarchod adeiladau treftadaeth. Cawsant ddysgu'r grefft o baratoi'r morter calch, ei gymhwyso i wahanol arwynebau, a chyflawni gorffeniadau gwahanol. O dan arweiniad Tom a Joe, hyfforddwyr profiadol, bu'r cyfranogwyr yn ymarfer technegau plastro â chalch ar arwynebau ffug, gan fireinio eu sgiliau yn y grefft hynafol hon.

Yn y drydedd wythnos, gwaith coed traddodiadol gafodd sylw. Bu'r dysgwyr yn archwilio'r hanes a'r technegau cyfoethog sy'n gysylltiedig â gwaith coed, gyda phwyslais ar ddulliau traddodiadol. Gwnaethant ddysgu sut i adnabod a dewis pren addas, defnyddio offer llaw traddodiadol, ac ymarfer adeiladu strwythur to ffrâm bren ar raddfa lai.

Yn ystod wythnos olaf y prosiect, dychwelwyd i'r grefft o gerfio cerrig a chynhyrchodd pob dysgwr ddarn hardd o garreg gerfiedig gan ddefnyddio technegau traddodiadol. Y grand finale oedd gweld yr holl ddysgwyr yn cwblhau'r Wobr Lefel 3 mewn Atgyweirio a Chynnal a Chadw Adeiladau Traddodiadol. Llongyfarchiadau i bawb am basio.

Drwy gydol y pedair wythnos, bu'r prosiect yn meithrin amgylchedd dysgu cefnogol a chydweithredol. Yn ogystal â hyfforddiant technegol, cymerodd cyfranogwyr ran mewn trafodaethau a gweithdai ar gadwraeth treftadaeth, arwyddocâd hanesyddol a chynaliadwyedd. Roedd teithiau maes i safleoedd treftadaeth nodweddiadol gan gynnwys cwrdd â thîm Cadw ym Mhalas yr Esgob, ymweld â Chastell Henllys a chanol trefi hanesyddol Tyddewi, Abergwaun a Hwlffordd, wedi cyfoethogi eu dealltwriaeth a'u gwerthfawrogiad o'r crefftau hyn ymhellach.

Er mwyn sicrhau effaith barhaol, dilynodd pob cyfranogwr leoliad profiad gwaith 4 wythnos gyda chwmni adeiladu treftadaeth lleol. Hoffem gynnig diolch enfawr i hwb Ar y Safle Cyfle am gefnogi’r lleoliadau gwaith. Hoffem hefyd ddiolch i Tree and Son Ltd, Coe Stone Ltd, a Saer Maen Sir Benfro am groesawu’r dysgwyr i’w timau a rhoi’r cyfle iddynt weithio ar rai prosiectau treftadaeth diddorol.

Trwy brofiadau ymdrwythol, dysgu ymarferol, a phrofiad gwaith, y gobaith yw y bydd cyfranogwyr yn cario gwaddol y crefftau hyn ymlaen ac yn sicrhau eu parhad am genedlaethau i ddod.