Mae Canolfan Tywi, Llandeilo yn dathlu ei phen blwydd yn 10 oed y mis hwn.

01/11/2019

Mae Canolfan Tywi, Llandeilo yn dathlu ei phen blwydd yn 10 oed y mis hwn.

Er mwyn nodi'r garreg filltir, mae tri aelod o staff y Cyngor yn gafael yn eu hesgidiau ymarfer i redeg 10 milltir drwy Ddyffryn Tywi.

Bydd Nell Hellier, Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig, Helena Burke, Swyddog Sgiliau a Phrosiectau Treftadaeth, a Ruth Rees, sy'n gweithio ar y prosiect Adeiladu ym maes Treftadaeth yng Nghymru, yn rhedeg un filltir am bob un o'r 10 mlynedd ers agor y ganolfan hyfforddiant ac addysg sgiliau adeiladu traddodiadol yn Fferm Dinefwr.

Bydd y llwybr yn cynnwys rhai o dirnodau hanesyddol yr ardal, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu cefnogi gan y ganolfan dros y blynyddoedd.

Dywedodd Helena Burke: "Rydym wedi bod yn meddwl yn galed ynglŷn â sut y gallwn ni ddathlu'r achlysur ac rydym wedi penderfynu y byddai rhedeg drwy'r dyffryn, gan werthfawrogi'r cyfoeth o dirweddau ac adeiladau hanesyddol, yn ffordd ddelfrydol o ddathlu."

Dros y degawd diwethaf, mae'r ganolfan wedi datblygu enw da ledled y DU am fod yn arbenigwyr wrth gefnogi'r gwaith o ddiogelu adeiladau hanesyddol Cymru ac mae ein tiwtoriaid profiadol a gwybodus wedi bod yn darparu hyfforddiant, addysg a gwybodaeth i warcheidwaid hen adeiladau cyn 1919 ledled y wlad.

Bydd y llwybr yn dechrau yng Nghastell Dryslwyn, yna bydd yn ymdroelli drwy bentrefi Cwrt-henri a Llangathen, drwy Barc Dinefwr i Gastell Dinefwr, o amgylch tref hanesyddol Llandeilo a bydd yn gorffen yng Nghanolfan Tywi i gael paned o de haeddiannol a sleisen o gacen i ddathlu.

Dywedodd Ruth Rees: "Mae'r llwybr yn cynnwys pedair heneb gofrestredig (Bryn y Grongaer, Caerau Rhufeinig Parc Dinefwr, Castell Dinefwr a Chastell Dryslwyn), dwy ardal gadwraeth (Llangathen a Llandeilo), ystadau godidog Plas Dinefwr, Cwrt-henri ac Aberglasne a thros 30 o strwythurau rhestredig, gan gynnwys ffermdai canoloesol, eglwysi, pontydd, neuaddau pentref, siopau a thai felly mae'n cyd-fynd yn dda â'r adeiladau hanesyddol y mae Canolfan Tywi yn eu cefnogi.

Cynhelir y dathliad a'r daith redeg ddydd Gwener, 29 Tachwedd.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Tywi a'r cyrsiau sy'n cael eu cynnig i berchnogion tai, contractwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu, ewch i www.canolfantywi.org.uk.