Llyfryn o gyrsiau byr wedi'u hariannu bellach ar gael

01/11/2020

Mae Canolfan Tywi wedi creu llyfryn newydd i helpu pobl yn y diwydiant adeiladu i gael mynediad at yr amrywiaeth eang o gyrsiau byr sydd ar gael iddynt.  Bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i wella eich sgiliau a'ch arbenigedd wrth weithio ar adeiladau traddodiadol a threftadaeth, gan agor ffrwd refeniw newydd i chi o bosibl, neu eich galluogi i loywi hen sgiliau, neu roi sgiliau achrededig i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant ar gyfer eu CV.

Mae'r cyrsiau'n amrywio o hyfforddiant ymarferol iawn fel atgyweirio fframwaith pren trwm traddodiadol, technegau plastro â chalch a gwaith cerrig traddodiadol i gyrsiau damcaniaethol fel technegau mesur ac adnabod pensaernïaeth. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau achrededig fel y Dyfarniad Lefel 3 mewn Atgyweirio a Chynnal a Chadw Adeiladau Traddodiadol (cyn 1919).

 

Mae Canolfan Tywi yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy ar gyfer Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB). Mae Sefydliadau Hyfforddi Cymeradwy yn cael eu cydnabod gan y CITB fel darparwyr hyfforddiant sy'n darparu hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion y diwydiant. Felly, mae'r cyrsiau nid yn unig yn cael eu cyflwyno gan diwtoriaid gwybodus, profiadol a chymwysedig, gall ymgeiswyr hefyd fod yn gymwys i gael cyllid o Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant y CITB.

 

I gael copi o'r llyfryn, cliciwch yma.

I drafod eich anghenion am hyfforddiant gydag un o'n haelodau staff profiadol, cysylltwch â ni ar :07929770743

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant y CITB, ewch i

https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/skills-and-training-fund/