Hyfforddi'r hyfforddwyr

Chwefror 2021

Hyfforddi'r hyfforddwyr

Mae tiwtoriaid o Goleg Sir Benfro wedi ymuno â thîm Canolfan Tywi am y cyntaf mewn cyfres o bum sesiwn hyfforddi treftadaeth. Mae'r holl diwtoriaid yn fedrus a phrofiadol iawn ond roeddent am loywi eu sgiliau adeiladu treftadaeth er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau yn y cwricwlwm.

O fis Medi 2021 bydd pob myfyriwr newydd ym maes Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn cael eu haddysgu am bwysigrwydd adeiladau hanesyddol yng Nghymru. Byddant yn dysgu sut y mae eu gofal a'u hatgyweirio yn wahanol i ddulliau adeiladu modern. 

Cyflwynwyd hyfforddiant ar-lein oherwydd cyfyngiadau cloi Covid. Ymhlith y pynciau a fydd yn cael sylw yn ystod y 5 sesiwn hyfforddi mae:

Cwrs 1. Cadwraeth Hen Adeiladau yng Nghymru: Y Rhesymwaith

Cwrs 2. Mecaneg Hen Adeiladau

Cwrs 3. Deunyddiau a Dulliau ar gyfer adeiladau traddodiadol

Cwrs 4. Cynaliadwyedd: y persbectif mwy a goblygiadau'r sector adeiladu

Cwrs 5. Effeithlonrwydd Ynni ac Ôl-ffitio: y manylion adeiladu