Hanfodion a Hyfforddiant NVQ3: Plastro ym maes Treftadaeth

04/12/23

Wedi'i deilwra ar gyfer gweithwyr adeiladu proffesiynol sy'n ceisio gwella eu sgiliau, mae'r rhaglen yn sicrhau cyflawni cymhwyster hyfforddi cydnabyddedig. Gall cwmnïau sydd wedi'u cofrestru gyda CITB fod yn gymwys i gael grantiau sy'n talu costau hyfforddi ac asesu, yn ogystal â chymorth ar gyfer costau teithio, llety, a threuliau oddi ar y safle. Os nad yw'ch cwmni wedi'i gofrestru gyda CITB, mae opsiynau hunanariannu hefyd ar gael er hwylustod i chi.

Mae ein hyfforddiant hyblyg yn eich galluogi i benderfynu a hoffech ddilyn hyfforddiant yn unig, rhaglen asesu (OSAT) yn unig neu ddilyn yr hyfforddiant a'r asesiad.

Beth yw plastro calch?

Mae plastro calch yn dechneg adeiladu draddodiadol sy'n defnyddio cymysgedd o galch agregau, ac weithiau ychwanegion eraill i greu gorffeniad addurnol ac amddiffynnol i'r plastr ar gyfer waliau, nenfydau a lloriau. Mae calch wedi cael ei ddefnyddio ym maes adeiladu ers canrifoedd. Byddai'r mwyafrif o adeiladau a adeiladwyd cyn 1919 wedi defnyddio morter calch, plaster a rendrad. Mae'n enwog am ei allu i alluogi waliau i anadlu, ei hybllygrwydd a'i wydnwch, sy'n golygu ei fod yn addas ar gyfer adfer adeiladau hanesyddol ac adeiladu cynaliadwy.

Beth yw'r elfennau hyfforddiant plastro ym maes treftadaeth?

  • Gweithio gyda chalch mewn adeiladau
  • Gosod Arwynebau Plastr Solet
  • Cadw Arwynebau Plastr Solet
  • Cyfraith Cadwraeth
  • Adnabod Pensaernïaeth
  • Deunyddiau Gwaith Plastro ffibrog - eu dewis a'u cymysgu
  • Cadw gwaith plastro ffibrog

Sylwadau gan eraill

Roedd y grant teithio i gael hyfforddiant, sy’n hygyrch i gyflogwyr cymwys sydd wedi'u cofrestru gyda CITB, yn fantais ychwanegol i Szymon Czech (Ellis & Co.) a Taylan Akincay (TG Williams Cyf) wrth iddynt deithio o Wlad yr Haf a Llanelwy.

Wrth siarad am y cwrs, dywedodd Szymon:

“Y rheswm pam wnes i gofrestru ar y cwrs oedd bod fy nhad wedi cwblhau'r cwrs eisoes ac wedi ei argymell i mi. Yr hyn a oedd fwyaf o werth i mi oedd bod gennyf bellach y wybodaeth am sut mae'r cyfan yn gweithio a pha ddeunyddiau addas i'w defnyddio. Roedd gen i rywfaint o brofiad yn gweithio gyda chalch a'r ochr ymarferol ond nid y wybodaeth i gyd-fynd â hyn.

“Mae llawer o'r hyn a ddysgais yn waith rwy'n ei wneud bob dydd, ond nawr rwy'n gwybod pam fy mod i'n ei wneud. Byddwn yn bendant yn argymell y cwrs, yn ogystal â'r lleill y mae Canolfan Tywi yn eu cynnig. Roedd Tom a Joe yn diwtoriaid gwych, ac roedden nhw wir yn gwneud y cwrs yn ddiddorol ac yn hwyl. Mae gan y ddau ddegawdau o brofiad, ac mae hynny'n amlwg!”

Dewisodd Alec a Bleddyn, y ddau yn hunangyflogedig, y llwybr hunan-ariannu. Gallwch weld pam y dewisodd Alec y llwybr hwn a chael blas ar eu profiadau yma.

I gofrestru eich diddordeb, ac am ragor o fanylion, ewch i dudalen benodol y cwrs yma, a llenwch y ffurflen gyswllt.