Ffilmiau i roi hwb i hyfforddiant yn ystod y cyfyngiadau symud

Chwefror 2021

Mae Tom Duxbury wedi ennill sgil newydd - saer, swyddog cadwraeth, tiwtor, asesydd a bellach - cyflwynydd ffilm! Mae Tom wedi bod yn gweithio gyda'r tîm talentog yn Akron Productions i gynhyrchu cyfres o ffilmiau byrion. Mae'r pynciau'n cynnwys diffygion cyffredin mewn adeiladau traddodiadol; gwlychu calch; calch cymysg poeth ac agregau ar gyfer morteri calch. Mae'r ffilmiau hyn yn ffordd wych o allu parhau â hyfforddiant sgiliau treftadaeth hanfodol - hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau symud.

Comisiynwyd Canolfan Tywi i gynhyrchu'r ffilmiau hyn gan Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru, diolch i gyllid o Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru. Bydd y ffilmiau ar gael drwy wefan y Fforwm  Adeiladau Traddodiadol Cymru yn fuan.