Ein Ffair Adeiladau Cynaliadwy a Thraddodiadol yn digwydd yn fuan!

11 Mai 2024

Rydym yn cyfri’r dyddiau tan ein Ffair Adeiladau Cynaliadwy a Thraddodiadol, a gynhelir ddydd Sadwrn 11 Mai 2024, yma yng Nghanolfan Tywi! O 10am, bydd arbenigwyr, cyflenwyr a chontractwyr yn dod at ei gilydd i roi mewnwelediadau ac atebion hanfodol ar gyfer gwneud cartrefi'n fwy cynaliadwy. Yng Nghymru, lle mae 1.4 miliwn o gartrefi yn defnyddio 27% o'r holl ynni, ni fu'r galw am atebion cartref ecogyfeillgar erioed mor bwysig!

Poeni am y gost? Dim gofidiau! Bydd y Ffair Adeiladau Cynaliadwy a Thraddodiadol yn ddigwyddiad tocynnau am ddim, sydd â'r nod o gael gwared â'r dryswch ynghylch gwelliannau i'r cartref ac arwain mynychwyr drwy'r daith o addasu eu cartrefi ar gyfer dyfodol gwyrddach

Diolch i’r cyllid hael gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin, yn addo dathlu treftadaeth gyfoethog Cymru ac ymrwymiad i ffordd gynaliadwy o fyw. O arloesiadau arbed ynni i adloniant sy'n addas i'r teulu a ddarperir gan Circus Eruption, bydd gan y Ffair rywbeth i'r teulu cyfan.

Bydd y Ffair Adeiladau Cynaliadwy a Thraddodiadol yn darparu cyngor ac arddangosiadau byw, gan gynnwys: arddangosiadau gwaith maen gan Coe Stone Ltd; arbenigedd plastro calch gan Pembrokeshire Limework; ac arddangosiad gwaith metel traddodiadol wedi'i ffugio â llaw gan Phoenix Forge. Bydd arbenigwr ffenestri Canolfan Tywi ei hun, Tom Duxbury, hefyd yn delio ag ymholiadau ar ffenestri codi pren traddodiadol.

Mae mwy o gyfleoedd arddangos byw yn cynnwys: atgyweiriadau gwaith plwm gan Jones and Fraser Ltd; gwasanaethau toi â gwellt traddodiadol gan Pembrokeshire Thatch & Carpentry; ac arbenigedd saer coed a dodrefn traddodiadol gan Gwaith Pren Dominic Wright Woodwork. Bydd Simon Howard Glass yn darparu arddangosiadau gwydr lliw cyfoes a thraddodiadol, a bydd Tŷ-Mawr Lime, arweinydd marchnad mewn deunyddiau adeiladu sy'n gydnaws â'r amgylchedd, yn cynnig cipolwg ar eu datrysiadau arloesol. Mae rhestr helaeth o'r holl arbenigwyr fydd yn bresennol i'w gweld ar wefan Canolfan Tywi: https://www.tywicentre.org.uk/what-we-do/training-and-education/sustainable-and-traditional-buildings-fair-2024/

Gall pobl sy'n dod i'r ffair hefyd ddisgwyl cipolwg ar Adeiladu a Chynhyrchu Ynni Cynaliadwy, lle bydd cwmnïau arbenigol blaenllaw – gan gynnwys Birds' Hill Rural Renewables, Celtic Sustainables, Cynghrair Adeiladu Traddodiadol Cynaliadwy (STBA), Academi Sgiliau Gwyrdd - Coleg Sir Gâr, Wool Insulation Wales, EBUKI, Strawbale UK, Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru, Weinerburger, Vivus Solutions Ltd a Dinefwr Orchardeers – yn gwneud arferion cynaliadwy yn fwy hygyrch i berchnogion tai, yn eu priod feysydd. Gall gwesteion hefyd fynychu sgyrsiau amrywiol, a gynhelir gan yr Archeolegydd a'r hanesydd, Alex Langlands, yr arbenigwr adeiladu cynaliadwy, Phil Roberts, a Phrif Swyddog Gweithredol EBUKI, Rowland Keable. Yn ystod y dydd, bydd gan westeion gyfle i archwilio stondinau masnach amrywiol i gwrdd ag arweinwyr sy'n gwella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi Cymru a chysylltu â chyflenwyr, contractwyr ac arbenigwyr amrywiol.

Dywedodd Helena Burke, Swyddog Sgiliau a Phrosiectau Treftadaeth Canolfan Tywi:

“Yma yng Nghanolfan Tywi, rydym yn hynod gyffrous am ein ffair Adeiladau Cynaliadwy a Thraddodiadol! Allwn ni ddim aros i groesawu arbenigwyr a gwesteion - bydd yn gyfle anhygoel i westeion gael mewnwelediad ar arferion cynaliadwy a'u rhoi ar waith ar eu cartrefi eu hunain. Mae'r rhestr o gyfranwyr yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.”

“Felly, beth yw'r oedi? Mae tocynnau am ddim - dewch i ymuno â ni!”

Mae tocynnau ar gael o hyd a gellir eu harchebu yma: https://www.ticketsource.co.uk/booking/select/GXgABCbmtUzu