Dysgwr yn ennill Diploma mewn Plastro Treftadaeth

21/10/2020

Roedd Tomasz Czech o Ellis & Co (Restoration and Building), yn un o bedwar dysgwr i gwblhau'r Rhaglen Sgiliau Cymwysedig Arbenigol (SAP) yn llwyddiannus mewn Plastro Treftadaeth. Dyfarnwyd Diploma NVQ3 mewn Plastro Treftadaeth i Tomasz ar ôl iddo gwblhau'r rhaglen hyfforddi ac asesu 18 mis.

Mae Ellis & Co, sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi'u lleoli yng Ngwlad yr Haf, yn arbenigwyr mewn gwaith cadw, atgyweirio ac adnewyddu adeiladau hanesyddol ac eglwysig.  Maent wedi cefnogi dau o'u gweithwyr i gyflawni'r rhaglen SAP.  Esboniodd y cwmni, ‘Mae cael gweithlu cymwysedig yn bwysig i ni oherwydd pan fyddwn yn gwneud cais i dendro am waith trwy ateb 'cwestiynau cyn-gymhwyso ’, gofynnir yn aml i Ellis & Co am gymwysterau staff. Mae cael mwy o staff â chymwysterau Treftadaeth bob amser yn ein helpu i gael ein rhoi ar restr dendro Penseiri ar gyfer prosiect penodol.

Dywedodd Ellis & Co, ‘Mae Tomasz wedi gweithio i Ellis & Co fel plastrwr ers dros 7 mlynedd, nid yw erioed wedi cael hyfforddiant ffurfiol yn y DU cyn y rhaglen SAP mewn Plastro Treftadaeth. Mae ei allu gyda phlastr bob amser wedi bod yn dda, ac ar ôl trafod y peth ag ef, penderfynom mai nawr yw'r amser iddo gwblhau'r hyfforddiant.

‘Mwynhaodd Tomasz ei hyfforddiant ac rydym yn falch ei fod wedi llwyddo i gwblhau ei gymhwyster NVQ3. Byddem yn hapus i argymell yr hyfforddiant i eraill.’

I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni hyfforddiant NVQ3 mewn Plastro Treftadaeth a Gwaith Saer Treftadaeth, ewch i'n gwefan  neu ffoniwch ni ar 07929 770743