Dyfarniad Lefel 3 mewn Atgyweirio a Chynnal a Chadw Adeiladau Traddodiadol a gyflwynir ar-lein am y tro cyntaf

Chwefror 2021

Mae'r cwrs achrededig, poblogaidd hwn yn ôl! Roeddem wrth ein bodd ein bod unwaith eto i allu cynnig y cwrs hwn i bobl sydd am ddysgu am hen adeiladau ac ennill cymhwyster cydnabyddedig.

Rydym wedi bod yn cyflwyno'r cwrs hwn ers blynyddoedd lawer mewn trefi ledled Cymru. Roedd cyflwyno'r cwrs ar-lein yn brofiad newydd ond roedd yr un mor bleserus. Roedd yn wych cwrdd â phobl o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd - rheolwyr cyfleusterau, seiri coed, contractwyr, syrfewyr a dylunwyr i enwi ond rhai ohonynt.

Dyma ychydig o adborth o'r cwrs

"Dau ddiwrnod lle cafodd gwybodaeth ei hesbonio'n glir ac a oedd yn llawn cynnwys a mewnwelediad. Wedi'i chyflwyno'n dda i gynnal diddordeb drwyddi draw - mae'n gymhwyster rwy'n ei werthfawrogi ac yn bwriadu gwneud defnydd mawr ohono."

"Diolch, Tom a Nell. Mwynheais y ddau ddiwrnod yn fawr. Mae'r cyrsiau'n cael eu cynnal mewn amgylchedd hamddenol ond llawn ffocws sydd wirioneddol yn gweithio. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y cynnwys, ac roedd y dyddiau wedi hedfan heibio."

Jeremy Richardson

Ffordd wych o ddarganfod y dull cywir o o warchod adeiladau hanesyddol yn ymarferol.  Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys cyngor ymarferol ar ddefnyddio morterau calch, sut i adnabod diffygion mewn adeiladau hanesyddol a sut i fynd ati i'w hatgyweirio. Mae'r hyfforddwyr yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt ac yn rhannu eu gwybodaeth a gafwyd trwy weithio yn y sector treftadaeth.
Wills McNally

Dylai rhannau helaeth o'r cwrs hwn (os nad pob un) fod yn orfodol i unrhyw un sy'n astudio/gweithio ym maes adeiladu, yn enwedig pobl ifanc sy'n dechrau ac unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant ôl-osod. 

Steve Cole

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cwrs nesaf yma