Datblygu Adeiladau Rhestredig yng Nghanol Trefi Sir Gaerfyrddin

Dydd Gwener 24 Mehefin

Seminar ar Datblygu Adeiladau Rhestredig yng Nghanol Trefi Sir Gaerfyrddin: cydnabod yr heriau

Nod y seminar yw hyrwyddo dealltwriaeth a chynnig cymorth i'r rhai sydd am ddatblygu Adeiladau Rhestredig, yn enwedig y rhai sy'n newid eu defnydd a'u lefelau defnydd.

Cynhelir y seminar ddydd Gwener 24 Mehefin yn Llyfrgell Caerfyrddin, 9 Heol San Pedr, Caerfyrddin, SA31 1LN a bydd yn cynnwys cyflwyniadau gan Nell Hellier, Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig, a Helen Rice, Uwch-reolwr Datblygu Dros Dro, a bydd James Yeandle a Matt Pyart, Swyddogion Treftadaeth Adeiledig wrth law ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb. 

Byddwn hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i'ch cyflwyno i'r 4 Arfarniad o Ardaloedd Cadwraeth a gynhaliwyd yn Nhref Caerfyrddin, Heol Awst, Heol y Prior a Heol Picton a rhoi cyfle i chi roi adborth o ran eich sylwadau a’ch syniadau ar yr arfarniadau a'r newidiadau arfaethedig i'r ffin.

Bydd y drysau'n agor am 9am gyda'r cyflwyniadau’n dechrau am 9:15 ac yn dirwyn i ben am 12:30.  Yn dilyn hyn, cynhelir Sesiwn Ymgynghori Agored lle bydd swyddogion ar gael tan 16:00 i drafod yr Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth.  Mae croeso i chi drosglwyddo'r gwahoddiad hwn i eraill y credwch y gallent fod am ymuno â ni.

Os hoffech fynychu'r sesiwn, cofrestrwch yma i gael eich tocyn am ddim.