Datblygu Adeilad Gwyrdd: Dyluniad Ysbyty Canser Felindre Newydd

11/05/24

Nod y Ffair Adeiladau Cynaliadwy a Thraddodiadol yw rhoi gwybodaeth, ysbrydoliaeth, a gwell dealltwriaeth i ymwelwyr o sut y gallwn wneud ein hadeiladau yn fwy cynaliadwy.

Yn ei sgwrs hynod ysbrydoledig, bydd Phil Roberts yn rhannu ei brofiad o weithio fel cynghorydd dylunio i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ar gyfer ei hysbyty Canser newydd yng Nghaerdydd. 

Mae adeiladu ysbyty newydd, uwch-dechnoleg, o’r radd flaenaf ar gyfer gofal canser yn Ne Cymru bob amser yn mynd i fod yn her. Ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a dulliau carbon isel, defnyddio’r dechnoleg wyrddaf a mwyaf cynaliadwy, tra’n ei gwneud yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol oedd yr her a wynebwyd gan dîm dylunio Felindre.

Yn ei sgwrs, bydd Phil yn cyflwyno hanes y prosiect hyd yn hyn. Bydd yn ceisio chwalu rhai o'r mythau sy'n ymwneud â'r defnydd o ddeunyddiau adeiladu naturiol ac wedi'u hailgylchu mewn prosiect o'r maint a'r cymhlethdod hwn. Bydd yn trafod sut mae'r agwedd hon yr un mor berthnasol i adeiladau presennol ag ydyw i strwythurau newydd.


Mae Phil Roberts - Ymgynghorydd Dylunio a Datblygu, ar hyn o bryd yn Gynghorydd Dylunio i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ar gyfer ei hysbyty newydd yng Nghaerdydd. Yn Banelydd gyda Chomisiwn Dylunio Cymru, mae ganddo gefndir mewn pensaernïaeth amgylcheddol, tirfesur adeiladau, dylunio ac adnewyddu. Mae wedi rhedeg practis pensaernïol a thirfesur adeiladau ac wedi bod yn Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr, yn y sectorau tai ac ynni adnewyddadwy.

I archebu eich tocyn am ddim ar gyfer y Ffair Adeiladau Cynaliadwy a Thraddodiadol, cliciwch yma

  Book now