Coronavirus - mesurau diogelwch ar gyfer hyfforddiant

Rhagfyr 2020

Mae parhau i gyflwyno ein cyrsiau gan gynnal y safonau uchaf o ran iechyd a diogelwch ar gyfer ein staff, ein dysgwyr a'n hymwelwyr yn eithriadol o bwysig i ni yng Nghanolfan Tywi.

Lle mae'n bosibl, rydym yn cyflwyno ein cyrsiau'n fyw drwy ddysgu o bell. Yn ystod cyrsiau o bell, mae nifer y grŵp yn ddigon bach i'ch galluogi i gymryd rhan mewn trafodaeth gyda'ch tiwtoriaid ac ymgeiswyr eraill ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwch hefyd yn cwblhau gweithgareddau deniadol sy'n helpu i atgyfnerthu'r hyn yr ydych yn ei ddysgu. Darperir manylion a chymorth llawn i'ch helpu i gael mynediad hwylus i'n platfformau dysgu.

Dyma'r cyrsiau sydd ar gael o bell ar hyn o bryd:

Dyma'r cyrsiau ar-lein a fydd ar gael yn fuan:

Ar gyfer cyrsiau sydd ag elfen o sgiliau ymarferol, byddwn yn parhau i gyflwyno'r rhain yng Nghanolfan Tywi.

Mae gennym fesurau diogelwch newydd ar waith sy'n cynnwys: 

  • Gwell arferion glanhau, yn ogystal â mwy o ddiheintio cyfarpar
  • Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith
  • Bydd hyfforddiant ymarferol yn cael ei gynnal yn yr awyr agored lle bynnag y bo modd
  • Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyrsiau – felly archebwch yn gynnar!
  • Dim rhannu offer a chyfarpar yn ystod yr hyfforddiant
  • Rhaid i bawb wisgo gorchuddion wyneb drwy gydol yr hyfforddiant
  • Rhoddir hyfforddiant ychwanegol i staff i sicrhau diogelwch.

Rydym yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth yn ofalus iawn a byddwn yn addasu ein mesurau diogelwch yn seiliedig ar y cyngor diweddaraf. Byddwch yn cael briff diogelwch llawn fel rhan o'ch cyfarwyddiadau ymuno pan fyddwch yn cofrestru ar gwrs.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod unrhyw beth, cysylltwch â Nell Hellier