Ceisio datrys penbleth? Nid oes rhaid i'r broses o gael Caniatâd Adeilad Rhestredig fod mor gymhleth!

09/11/2020

Rydym wedi datblygu cwrs newydd i gefnogi perchnogion adeiladau rhestredig trwy'r broses a all ymddangos yn gymhleth iawn: Caniatâd Adeilad Rhestredig - canllaw cam wrth gam i wneud newidiadau i'ch cartref hanesyddol.

Nid yw gofalu am ein hadeiladau rhestredig yn golygu eu cadw yn y gorffennol, mae'n golygu sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddefnyddiol, yn ymarferol ac yn werthfawr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae cael caniatâd adeilad rhestredig yn sicrhau bod y newidiadau y mae perchnogion yn eu gwneud i'w hadeiladau rhestredig yn cadw'r gwerthoedd treftadaeth hyn i'r genedl eu mwynhau yn y blynyddoedd i ddod.

Gall y broses ymddangos yn gymhleth, felly mae'r cwrs ar-lein undydd rydym wedi'i ddatblygu yn tywys perchnogion a gwarcheidwaid adeiladau hanesyddol, gam wrth gam, o'r cyfnod cyn ymgeisio i'r cam cwblhau. Rydym hefyd yn gallu eich cyfeirio at ragor o wybodaeth i'ch helpu gyda'ch cais gan gynnwys y cymorthfeydd 1:1 y mae Canolfan Tywi yn eu cynnig.

Mae adborth gan gyfranogwyr yn dangos bod cost y cwrs, sef £45, yn arian sydd wedi'i wario'n ddoeth.

Byddwn yn ei argymell yn gryf. Rwy’n falch na wnes i benderfynu ceisio mynd trwy'r broses hon heb gwblhau'r Cwrs Caniatâd Adeilad Rhestredig.’  Corby

 ‘Mae’r cwrs hwn yn amhrisiadwy i unrhyw un sy’n berchen ar adeilad rhestredig neu ar fin bod yn berchen arno. Mae'r cwrs yn sicr wedi ein helpu i ddeall y pethau cywir ac anghywir i'w gwneud a fydd yn ei dro yn arbed amser ac arian i ni wrth wneud unrhyw atgyweiriadau neu newidiadau i'n heiddo hanesyddol.‘ Tim a Betsan

Mae ein cwrs nesaf ar-lein ddydd Gwener 27 Tachwedd. Cofrestrwch yma i archebu eich lle.