Canolfan Tywi yn creu partneriaeth gyda Historic England i addysgu'r genhedlaeth newydd

08/04/24

Y llynedd, gofynnwyd i ni yng Nghanolfan Tywi ddarparu cwrs 2 ddiwrnod 'Atgyweirio a Chynnal a Chadw mewn Adeiladau Traddodiadol (cyn 1919)' Lefel 3 ar gyfer ysgol haf Historic England. Cynhaliwyd y cwrs yn Hopwood Hall ar gyrion Manceinion, a dyma'r ail flwyddyn o gyflwyno'r cwrs yn eu hysgol haf. Croesawyd myfyrwyr o golegau lleol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Historic England.

Mae ysgol haf Historic England yn gyfle blynyddol, sydd â'r nod o drosglwyddo crefftau treftadaeth traddodiadol hanfodol a rhai sydd mewn perygl i hyfforddeion o bob rhan o ogledd Lloegr. Mae'r ysgol haf yn cynnwys cyfres o weithdai crefft a gyflwynir gan feistri crefft, ac mae wedi'i chynllunio i helpu i fynd i'r afael â'r prinder difrifol o ran y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i achub adeiladau hanesyddol ledled y wlad – sy'n cyd-fynd â'n cenhadaeth yng Nghanolfan Tywi!

Hopwood Hall yw cartref cyndeidiau Hopwood DePree, sef actor, awdur a gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd. Mae'n un o neuaddau pwysicaf Manceinion Fwyaf sydd wedi goroesi, ac mae ganddi dapestri cyfoethog o straeon a threftadaeth ddiwylliannol. Gan gydweithio â gwirfoddolwyr lleol, Historic England, Cyngor Bwrdeistref Rochdale a Choleg Hopwood Hall, mae DePree yn arwain yr ymdrechion i adfer ac ailbwrpasu'r neuadd yn lleoliad artistig a diwylliannol bywiog, gan sicrhau ei bod yn cael ei chadw am genedlaethau i ddod.

Ymhlith yr arbenigwyr gwych ar adeiladau traddodiadol a threftadaeth a fu’n cynghori DePree a'r myfyrwyr oedd Tom Duxbury. Mae ganddo brofiad helaeth yn y diwydiant adeiladu ac mae wedi rhedeg ei fusnes gwaith saer ac adeiladu arbenigol ei hun yn llwyddiannus am 25 mlynedd. Roedd Tom yn ychwanegiad gwych at y prosiect, gan gynnig gwybodaeth am strwythur hanfodol adeiladau traddodiadol a'r ffordd orau o ofalu amdanynt.

Ochr yn ochr â'r prosiect, gwnaeth Hopwood DePree a Historic England raglen ddogfen, lle gwelir Tom yn siarad am achos pydredd sych; pryd y mae angen cael gwared ar elfennau a'u hadfer; rheoli lleithder a phwysigrwydd mynd i'r afael â phroblemau cyn gynted ag y byddant yn ymddangos!

Mae 63,000 o bobl wedi gwylio'r rhaglen ddogfen eisoes, a dyma un o'r ffilmiau a wyliwyd fwyaf ar sianel YouTube Historic England, ac mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu sgiliau ac annog newydd-ddyfodiaid i'r sector adeiladu ym maes treftadaeth!

Gwyliwch y rhaglen a dysgwch fwy am brosiect Hopwood Hall yma: Rescuing an Abandoned English Manor House with Hopwood DePree | Historic England (youtube.com)