Canolfan Tywi yn cael sêl bendith i ddarparu'r Dyfarniad Lefel 3 mewn Effeithlonrwydd Ynni ac Ôl-ffitio mewn Adeiladau Traddodiadol (cyn 1919).

Ionawr 2021

Mae angen i bob cartref yn y DU fod yn gynhesach, yn fwy effeithlon ac yn fwy economaidd.  Bydd y cwrs 2 ddiwrnod, ar-lein hwn yn eich galluogi i bennu'r mesurau effeithlonrwydd ynni mwyaf priodol ar gyfer adeiladau hanesyddol yng Nghymru. 

Yng Nghymru, lle adeiladwyd tua 1/3 o'n stoc tai cyn 1919, mae angen i ni sicrhau bod yr adeiladau hyn yn chwarae eu rhan lawn wrth symud tuag at economi ddi-garbon. 

Yn unol â PAS2035 mae'n ofynnol i bob Asesydd Ôl-ffitio feddu ar y cymhwyster hwn cyn pennu mesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer unrhyw eiddo domestig hanesyddol wedi'i warchod yn y DU.  Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y byddai'r cwrs hwn o werth i unrhyw un sy'n gweithio yn y sector adeiladu sy'n dymuno gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau traddodiadol. 

Felly, mae Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru yn rhoi cymhorthdal mawr i gyflwyno'r cwrs hwn tan ddiwedd mis Mawrth 2021, diolch i grant gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru. 

Felly, mae croeso i Gontractwyr Adeiladu, Aseswyr Ôl-ffitio, Manylebwyr, Cydgysylltwyr Ôl-ffitio a pherchnogion portffolios Adeiladau Hanesyddol ymuno â'r cwrs i fanteisio ar y cynnig gwych hwn.