Lansio'r cwrs hyfforddiant ar-lein cyntaf - Caniatâd Adeilad Rhestredig: canllaw cam wrth gam i wneud newidiadau i'ch cartref hanesyddol

21 Awst 2020

Bydd y cwrs 1 diwrnod hwn yn eich arwain drwy'r broses Caniatâd Adeilad Rhestredig ac yn rhoi cymorth a chyngor i chi ynghylch llunio cais llwyddiannus.  Mae dod o hyd i'r arbenigwyr iawn; deall pwysigrwydd hanesyddol eich adeilad; cyflwyno'r deunydd cais iawn; a chyflwyno achos cryf dros y newidiadau yr ydych am eu gwneud yn elfennau hanfodol o gais da. 

Mae'r darparwyr hyfforddiant, o Ganolfan Tywi yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, yn arbenigwyr mewn cadwraeth adeiladau hanesyddol ac maent yn gyfrifol am roi caniatâd yn Sir Gaerfyrddin.  Os ydych yn ystyried gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig, bydd y cwrs hwn o werth gwirioneddol i chi.

Ymunwch â ni ar ddydd Gwener 21 Awst.   Dyma ein cwrs cyntaf ar-lein, ac mae ar gael am ddim. Byddem ond yn gofyn i chi roi adborth adeiladol i ni yn dilyn y cwrs.

Os hoffech fanteisio ar y cynnig cyffrous hwn, mae croeso i chi gysylltu â Chanolfan Tywi yn uniongyrchol ar CanolfanTywiCentre@carmarthenshire.gov.uk neu ffôn 07929 770732

I gael dyddiadau yn y dyfodol a chyrsiau eraill ewch i'n tudalennau gwefan hyfforddi ac addysg