Bywyd newydd i Neuadd Farchnad Llandeilo

Rhagfyr 2020

Mae prosiect gwerth £3.8m ar y gweill yn Neuadd Farchnad Llandeilo diolch i grant o £1.4m gan Gronfa Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru. Adeiladwyd y farchnad nwyddau, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, yn y 1830au ac mae wedi bod yn rhan allweddol o hanes Llandeilo hyd at 2002 pan nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach.

Nod y Gronfa Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, sydd bellach yn rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Trefi, yw adfywio canol trefi drwy ddod ag adeiladau nas defnyddir yn ôl i ddefnydd, creu cyfleoedd economaidd a chynyddu nifer yr ymwelwyr.  Yn dilyn sawl ymgais aflwyddiannus gan drydydd parti i atgyfodi'r adeilad, mae tîm datblygu economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin, gyda chefnogaeth y tîm cynllunio a llawer o dimau eraill CSC, wedi ymgymryd â'r prosiect adnewyddu cyffrous hwn, i'w ddychwelyd i ddefnydd cymunedol a busnes.  Bydd yn darparu: lle cyflogaeth newydd; lleoliad ar gyfer digwyddiadau; neuadd farchnad a bwyty a chaffi.  Disgwylir y bydd 1249 metr sgwâr o arwynebedd llawr yn cael ei greu a'i adnewyddu, gan ddarparu ar gyfer 17 o fusnesau bach a chanolig a 45 o swyddi.

Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Medi 2022 ac y bydd y neuadd ar agor i'w defnyddio erbyn Rhagfyr 2022.