Atgyweirio neu Amnewid: Cwrs Arolygu Ffenestri Codi Hanesyddol

09/11/2020

Atgyweirio neu Amnewid: Cwrs Arolygu Ffenestri Codi Hanesyddol

Ym mis Medi eleni gwnaethom gynnal ein cwrs Arolygu Cyflwr Ffenestri Codi agoriadol o'r diwedd ar ôl gorfod gohirio ddwywaith oherwydd Covid-19 - ac roedd yr adborth yn ardderchog!

Wedi gwirioni ar y cwrs! Wedi dysgu llawer! Arddull cyflwyno gwych - llawn gwybodaeth, cynhwysol a rhyngweithiol. Roedd y drafodaeth ynghylch pwysigrwydd manylder yn wych drwyddi draw. Sophie

Mae colli ffenestri traddodiadol yn un o'r bygythiadau mwyaf i'n treftadaeth. Yn ogystal â bod yn bwysig i edrychiad cyffredinol adeilad, gall y pren a'r gwydr fod yn arteffactau hanesyddol yn eu rhinweddau eu hunain. Wrth weithio ar ffenestri codi traddodiadol yng ngweithdai Canolfan Tywi, roedd cyfranogwyr yn gallu datod ac archwilio ffenestri hanesyddol; nodi'r elfennau sy'n arwyddocaol yn hanesyddol; a dechrau penderfynu pa rannau o'r ffenestri oedd yn addas i'w hatgyweirio. Wedyn cawsant gymorth wrth gasglu gwybodaeth am fanyleb i'w hatgyweirio.

Byddai pawb sy'n gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig yn elwa'n fawr o'r cwrs hwn. Byddai syrfewyr, penseiri, technegwyr pensaernïol ac asiantau cynllunio, yn ogystal â seiri coed sy'n bwriadu datblygu eu harbenigedd o weithio ar ffenestri hanesyddol, yn cael budd gwirioneddol drwy fanteisio ar wybodaeth hyfforddwr Canolfan Tywi, Tom Duxbury, sy'n saer treftadaeth â phrofiad addas ac yn Swyddog Cadwraeth.

Mae rhan o'r cwrs yn ddamcaniaethol ac mae'r rhan arall yn ymarferol, gan weithio ar ffenestri codi traddodiadol yng ngweithdai hanesyddol Canolfan Tywi. Cofrestrwch ar gyfer ein cwrs nesaf ddydd Iau 4 Chwefror 2021.