Asesu a Hyfforddi ar y Safle (OSAT)

Chwefror 2021

 

Oeddech chi'n gwybod bod Canolfan Tywi yn gallu cynnig llwybr OSAT ar gyfer Sgiliau Treftadaeth i NVQ3?

Mae'r cwrs OSAT wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer crefftwyr profiadol nad oes ganddynt gymhwyster ffurfiol. Mae'n llwybr syml, cyflym ac effeithiol i gael diploma NVQ perthnasol. Heb unrhyw gyrsiau i'w mynychu, mae asesu ac unrhyw hyfforddiant yn cael eu cynnal ar y safle, sy'n golygu mai ychydig iawn o darfu sydd ar weithgareddau gwaith bob dydd. Ar ôl ennill yr NVQ3, gall gweithwyr wneud cais am gerdyn 'Treftadaeth' Aur y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu.

Mae I.J. Preece and Son Ltd yn arbenigwyr mewn Cadwraeth ac Adfer Adeiladau. Yn ddiweddar maent wedi cofrestru Nathan, saer medrus, ar y Cynllun. Dyma eu hadborth hyd yn hyn:

Pam wnaethoch chi benderfynu cefnogi Nathan i ennill y cymhwyster hwn?

Pan ddechreuodd Nathan weithio i ni am y tro cyntaf gwnaethom ei gefnogi drwy brentisiaeth lefel 2 yn y coleg. Nid oedd Nathan am barhau hyd at lefel 3 y brentisiaeth ar y pryd, gan ei fod yn teimlo y gallai dysgu ar y safle fod yn fwy buddiol.  Gan fod ganddo sawl blwyddyn o brofiad bellach, mae hyder Nathan wedi datblygu ac mae wedi dod yn fedrus a chymwys iawn yn ei grefft (gwaith coed).  Roeddem yn hapus i'w gefnogi i ennill NVQ Lefel 3 pan awgrymodd hynny, ac aethom ati i chwilio am ffyrdd y gallai gyflawni hyn tra'n parhau i gynnal ei oriau gwaith ar ein safleoedd.

A yw'r broses asesu yn cyd-fynd â'ch amserlen waith?

Roedd yr agwedd asesu ar y safle sy'n rhan o'r NVQ yn addas ar gyfer Nathan a'n busnes.  Mae'n gwrs sy'n benodol ar gyfer treftadaeth, ac roeddem o'r farn y byddai hyn yn cyd-fynd â chryfderau'r Cwmni fel contractwyr adeiladu sy'n ymgymryd â llu o brosiectau cadwraeth ac adfer.  Mae Nathan yn rhan amhrisiadwy o'n tîm, felly mae'r ffaith bod modd cynnal asesiadau ar y safle a thrwy hynny gyflwyno tystiolaeth o’r gwaith, a hynny heb dorri ar draws ei waith o ddydd i ddydd yn ormodol yn wych.  Rydym rhoi amser i Nathan gasglu tystiolaeth o’r gwaith yn ôl y gofyn, ond gwneir hyn yn bennaf wrth iddo weithio ar ein prosiectau, felly ychydig iawn o darfu a geir.

A fyddech yn argymell hyn i gwmnïau eraill ar sail eich profiad hyd yma?

Er bod COVID-19 wedi effeithio rhywfaint ar gynnydd, mae'r tiwtor a neilltuwyd i Nathan bob amser yn barod i helpu ac yn hawdd cysylltu ag ef.  Rydym hefyd yn gwmni sydd wedi cofrestru gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) sy'n golygu y gallwn hefyd hawlio grant tuag at y cwrs, sy'n helpu'n sylweddol tuag at y gost gyffredinol.  Gan fod modd i weithwyr gael cydnabyddiaeth am eu sgiliau heb effeithio'n ormodol ar eu hamser yn gweithio, byddwn yn bendant yn argymell yr opsiwn hwn ar gyfer annog a gwella gweithwyr medrus os yw hyn yn rhywbeth y maent yn awyddus i’w wneud. 

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Thîm Canolfan Tywi - canolfantywicentre@sirgar.gov.uk