Arbed ynni ac arbed adeiladau hanesyddol Sir Gaerfyrddin

27/1/2022

Arbed ynni ac arbed adeiladau hanesyddol Sir Gaerfyrddin – Mae Adran Lle a Chynaliadwyedd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain y ffordd o ran hysbysu pobl leol fel rhan o'i hymgais am Ddyfodol Di-garbon.

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae pawb am wneud eu hen gartref yn fwy clyd; mae pawb am leihau eu biliau ynni!  Mae Canolfan Tywi yn cydweithio ag arbenigwyr eraill ym maes Effeithlonrwydd Ynni ac mae'n darparu nifer o gyrsiau dros y 6 mis nesaf i helpu pobl i wneud y dewisiadau cywir wrth iddynt gynllunio eu gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar gyfer eu hen adeilad. 

 

Mae'r cwrs 1 diwrnod Gwella Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Traddodiadol (hŷn) wedi'i gynllunio'n benodol i helpu perchnogion a cheidwaid hen adeiladau i wneud penderfyniadau ynghylch sut i wella effeithlonrwydd ynni eu hen gartrefi a'u heiddo masnachol. Bydd yn amlinellu pam mae angen ystyried adeiladau traddodiadol yn wahanol, yn arwain cyfranogwyr tuag at ddewis deunyddiau priodol, yn tynnu sylw at y risgiau y mae angen eu hystyried ac yn rhoi arweiniad i helpu pobl i symud ymlaen gyda'u gosodiadau arbed ynni.

 

Yr ail gwrs yw'r Dyfarniad Lefel 3 achrededig, 2 ddiwrnod mewn Mesurau Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol ac mae'n ddelfrydol ar gyfer manylebwyr, dylunwyr a gosodwyr.  Mae'n canolbwyntio ar rai o'r heriau o ran gwneud yr adeiladau hyn sy'n enwog am fod yn ddrafftiog yn fwy effeithlon o ran ynni wrth sicrhau eu bod yn parhau i gael eu cynnal er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.  Bydd Sam Hale o Welsh Historic Building Consultancy ac Andrew Mitchell o Avad Consulting ynghyd â'r arbenigwyr adeiladau hanesyddol o Ganolfan Tywi yn sicrhau bod y cwrs hwn yn un ysgogol, ysbrydoledig ac addysgol sy'n arwain at gymhwyster hanfodol ar gyfer Aseswyr Ôl-ffitio. 

 

Bydd y ddau gwrs yn cael eu cyflwyno o Ganolfan Tywi ar 3 achlysur rhwng nawr a diwedd mis Mehefin 2022 a diolch i Gyllid Adfywio Cymunedol mae'r cwrs 1 diwrnod ar gyfer perchnogion hen adeiladau AM DDIM, ac mae'r Dyfarniad achrededig 2 ddiwrnod yn cael ei gyllido'n sylweddol iawn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud archeb drwy glicio ar deitlau'r cwrs isod.

Gwella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau traddodiadol (hŷn)

Dyfarniad Lefel 3 mewn Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol