Adfywio'r Stryd Fawr: Ysbrydoliaeth ar gyfer Trefi anesyddol Cymru

Medi 2022

Cafodd y seminar hanner diwrnod ar-lein hwn ei gynnal ar 8 Medi 2022.  Ei nod oedd ysbrydoli'r rhai a oedd yn cymryd rhan ynghylch y rôl y gall yr amgylchedd adeiledig hanesyddol ei chwarae wrth adfywio canol trefi sirol ledled Cymru.  Gwnaeth dynnu sylw at yr heriau a cheisio rhoi arweiniad ar sut i oresgyn rhai o'r heriau hynny yn seiliedig ar brofiad ac arbenigedd prosiectau llwyddiannus mewn mannau eraill.  Ffocws y digwyddiad oedd Caerfyrddin yng Ngorllewin Cymru, ond cafwyd ysbrydoliaeth a syniadau o bob cwr o'r Deyrnas Unedig gan gynnwys Hi-Street Heritage Action Zones yn Lloegr a'r 'Cynigion Arbennig' allai fod gan drefi hanesyddol.

Gallwch weld cyflwyniadau’r seminar fan hyn: 

Sylwadau Agoriadol - Wedi'u recordio gan Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

‘Pa fudd yr ydym erioed wedi'i gael o'n hen adeiladau’ – Nell Hellier, Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig, Cyngor Sir Gâr

Rhoi Hwb i Falchder Bro yn y Stryd Fawr sy'n Newid yn Barhaus - Chris Wade, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Pobl a Lleoedd

Mynd i'r afael ag unedau gwag: o broblem i ased – Iain Nicholson, Sylfaenydd The Vacant Shops Academy ac Arweinydd Datblygu Strategol rhan-amser yn The Institute of Place Management

Parhad a Newid - Heriau Ail-ddefnyddio Siopau Rhestredig Gwag - Helen Ensor, BA Hons MA IHBC, Cyfarwyddwr Ymarfer ac Arweinydd Swyddfa, Donald Insall Associates.

Ail-greu/Creu lleoedd gwych - Dr Ben Reynolds, Urban Foundry 

Croesoswallt: Golwg ymarferol ar fanteision adfywio a arweinir gan dreftadaeth – Samantha Jones, Swyddog Prosiect, Hi-Street Heritage Action Zone Croesoswallt

Cyrchfan fywiog: Stori'r Fenni – Cllr Tony Konieczny, Maer y Fenni

 

Crynodebau o gyflwyniadau a bywgraffiadau

'Pa fudd yr ydym erioed wedi'i gael o'n hen adeiladau'

Cyflwyniad gan Nell Hellier, Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig, Cyngor Sir Gâr

Crynodeb o’r Cyflwyniad

Gellid dadlau mai Caerfyrddin yw'r dref hynaf yng Nghymru y mae pobl wedi bod yn byw ynddi'n ddi-dor. Mae dros 100 o adeiladau rhestredig yn Ardal Gadwraeth Tref Caerfyrddin ac mae 3 ohonynt yn Adeiladau Rhestredig Gradd I a 2 ohonynt yn Henebion Cofrestredig.  Bydd y cyflwyniad hwn yn amlinellu'r buddion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol a phersonol y gallwn oll eu cael o'n hen adeiladau os ydym yn eu cynnwys yn ein cynlluniau i adfywio ein stryd fawr.

Bywgraffiad

Nell Hellier yw Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig Cyngor Sir Caerfyrddin.  Yn y rôl hon mae ganddi gyfrifoldebau statudol am Ardaloedd Cadwraeth ac Adeiladau Rhestredig yn Sir Gaerfyrddin, ond mae hefyd yn rheoli Canolfan Tywi sy'n hyrwyddo sgiliau adeiladu traddodiadol ac addysg mewn perthynas â thrwsio a gofalu am adeiladau hanesyddol ledled Cymru. 

 

Rhoi Hwb i Falchder Bro yn y Stryd Fawr sy'n Newid yn Barhaus 

Chris Wade, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Pobl a Lleoedd

Crynodeb o’r Cyflwyniad

Bydd Chris Wade yn sôn am waith y People & Places Partnership o ran deall, meithrin a monitro'r hyn sy'n cyfrannu at falchder lleol mewn lle ar gyfer canol trefi, gan gynnwys ymchwil ddiweddar i wireddu amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bywgraffiad

Chris Wade yw Cyfarwyddwr y People & Places Partnership sy'n darparu cymorth arbenigol i reolwyr, arweinwyr a phartneriaethau lleoedd ledled y DU gan gynnwys trwy baratoi Pecyn Cymorth Adfywio Canol Trefi y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Mae'n Gymrawd yn y Sefydliad Rheoli Lleoedd ac yn Arbenigwr Tasglu'r Stryd Fawr. Mae Chris hefyd yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd (ATCM). Mae gan Chris Radd Meistr mewn Rheoli Amgylcheddol o Brifysgol Canolbarth Lloegr ac mewn Menter Gymunedol o Ysgol

 

Mynd i'r afael ag unedau gwag: o broblem i ased

Cyflwyniad gan Iain Nicholson, Sylfaenydd The Vacant Shops Academy ac Arweinydd Datblygu Strategol rhan-amser yn The Institute of Place Management

Crynodeb o’r Cyflwyniad

Mae gan ormod o leoedd fwy o unedau gwag nag sydd eu hangen - ac mae rhai o'r rheiny mewn adeiladau treftadaeth.  Bydd y cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar sut y bydd y dull 'archwilio, ymgysylltu, annog, hyrwyddo' yn helpu, a'r rhan y gall lle ei chwarae.

Bywgraffiad

Mae Iain Nicholson yn arbenigwr creu lleoedd sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau yn ymwneud â siopau gwag ar y stryd fawr, a gwella'r cymysgedd o fathau o ddefnydd mewn canol dinasoedd a threfi neu mewn maestrefi.  Mae llawer o'i waith ar ganol trefi a dinasoedd wedi cynnwys gweithio gydag asiantau, landlordiaid, busnesau a chymunedau, gan ddefnyddio dull 'archwilio, ymgysylltu, annog, hyrwyddo' i leihau nifer yr unedau gwag, gan gynnwys profiad helaeth o gynnal prosiectau siopau gwib a 'defnydd yn y cyfamser'. Mae hefyd yn Arweinydd Datblygu Strategol rhan-amser yn The Institute of Place Management, sef y corff proffesiynol ar gyfer arweinwyr a rheolwyr lleoedd.

 

Parhad a Newid - Heriau Ail-ddefnyddio Siopau Rhestredig Gwag

Helen Ensor, BA Hons MA IHBC, Cyfarwyddwr Ymarfer ac Arweinydd Swyddfa, Donald Insall Associates.

 Crynodeb o’r Cyflwyniad

Mae adeiladau rhestredig yn creu cyfleoedd a heriau penodol o ran ailagor unedau manwerthu gwag presennol.  Mae llawer o'r gwaith o nodi'r potensial ar gyfer newid a datblygu Adeilad Rhestredig yn ymwneud â deall ei arwyddocâd hanesyddol ac mae hyn yn allweddol i oresgyn yr heriau sy'n gysylltiedig â defnyddio adeiladau gwag i'w llawn botensial.  Bydd y cyflwyniad hwn yn defnyddio enghreifftiau i dynnu sylw at y cyfleoedd hyn a sut mae heriau wedi'u goresgyn.

Bywgraffiad

Mae gan Helen dros 25 mlynedd o brofiad o weithio ym maes treftadaeth a chadwraeth yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus, fel swyddog cadwraeth ac Arolygydd English Heritage.  Mae'n un o Gyfarwyddwyr y Fforwm Trefi a Phentrefi Hanesyddol ac yn darlithio'n rheolaidd ar gadwraeth, treftadaeth, arwyddocâd a lleoliad.  Mae wedi llunio cannoedd o arfarniadau o'r effaith ar dreftadaeth, datganiadau o arwyddocâd a Chynlluniau Rheoli Cadwraeth ac mae'n credu mai'r dogfennau hyn yw'r allwedd i ddatgloi potensial yr amgylchedd hanesyddol.

  

Ail-greu/Creu lleoedd gwych

Dr Ben Reynolds, Director, Urban Foundry

Crynodeb o’r Cyflwyniad

Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod yr elfennau sy'n creu amgylcheddau trefol cynaliadwy: Beth mae angen i ni ei ddiogelu a beth mae'n rhaid i ni ei ystyried wrth gynllunio unrhyw ddatblygiadau newydd?

Bywgraffiad

Ben Reynolds PhD (Diwylliant ac Adfywio Trefol) BSc (Anrh) MMRS FRSA yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Urban Foundry. Mae ganddo Ddoethuriaeth mewn adfywio dinasoedd yn greadigol a thros 20 mlynedd o brofiad mewn adfywio.  Mae Ben yn defnyddio dull meddwl yn greadigol ynghyd â dealltwriaeth ddamcaniaethol gref a meddwl mewn modd entrepreneuraidd i ddatrys amrywiaeth o broblemau, o fentrau cymunedol bach i gynlluniau a rhaglenni ledled y wlad.  Mae'n arloeswr mentrau trefolaeth dros dro, gan ddatblygu prosiectau mewn mannau cyhoeddus megis marchnadoedd stryd, digwyddiadau cerddoriaeth fyw a chelf, a pharciau dros dro, yn ogystal ag arloesi mewn defnyddiau yn y cyfamser/dros dro o ran adeiladau gwag.

 

Croesoswallt: Golwg ymarferol ar fanteision adfywio a arweinir gan dreftadaeth

Samantha Jones, Swyddog Prosiect, Hi-Street Heritage Action Zone Croesoswallt

Crynodeb o’r Cyflwyniad

Bydd y sgwrs hon yn canolbwyntio ar y gwaith parhaus o weithredu High Street Heritage Action Zone Croesoswallt. Dangosir astudiaethau achos i dynnu sylw at y manteision a'r rhwystrau sy'n cael eu hwynebu wrth ddefnyddio treftadaeth ar gyfer adfywio economaidd.

Bywgraffiad

Ar ôl ennill gradd mewn Archaeoleg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, bu Samantha yn gweithio gyntaf yng Ngwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych fel warden gan greu llwybrau wedi'u hyrwyddo cyn dod yn Swyddog Cadwraeth Bryngaerau ar gyfer Prosiect y Grug a'r Caerau. Ar ôl y swydd hon datblygodd Samantha yrfa mewn treftadaeth gan roi prosiectau a ariannwyd yn allanol ar waith a gweithio gyda chymunedau i archwilio'u gorffennol mewn sefydliadau fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Erbyn hyn, mae'n gweithio fel Swyddog Prosiect ar gyfer y prosiect High Street Heritage Action Zone yng Nghroesoswallt ar gyfer Cyngor Swydd Amwythig.

 

Cyrchfan fywiog: Stori'r Fenni

Cllr Tony Konieczny, Maer y Fenni

Crynodeb o’r Cyflwyniad

Mae'r Fenni, fel pob tref ar draws y wlad, wedi wynebu heriau enfawr o ran cadw stryd fawr iach, yn enwedig yn ystod ac ar ôl Covid.  Bydd Tony yn cyflwyno rhai o'r elfennau allweddol y mae wedi'u nodi sydd wedi galluogi'r Fenni i gadw cymuned fywiog a chroesawgar ar gyfer busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Bywgraffiad

Mae'r Maer Tony Konieczny yn gynghorydd tref Llafur dros Ward y Castell yn y Fenni, Sir Fynwy ers 2017.  Mae Tony yn ddirprwy bennaeth sydd wedi ymddeol a ddaeth i weithio yn yr ardal yn wreiddiol ar ddechrau'r wythdegau ac mae'n byw yn y Fenni ers canol y nawdegau.  Cyn ymuno â'r cyngor, bu'n gyn-gadeirydd Cymdeithas Ddinesig y Fenni a'r Cylch, ac yn un o ymddiriedolwyr Tŷ'r Morwydd yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru.  Ar hyn o bryd mae'n cefnogi prosiect Plas Gunter fel is-gadeirydd grŵp y Cyfeillion ac mae hefyd yn is-gadeirydd Cyfeillion Gwasanaeth Llyfrgell y Fenni.