Adeiladu ym maes Treftadaeth yng Nghymru

Rhagfyr 2020

Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint gweithio mewn partneriaeth â Tree and Sons Ltd., Just Lime Ltd., Andrew Scott Ltd ac Adeiladau Traddodiadol Cymru ar ddatblygu a chyflwyno Adeiladu ym maes Treftadaeth yng Nghymru (HECW). Rydym yn ddiolchgar iawn i Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a Cadw am ddarparu cyllid a chefnogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am gyflawniadau a gwaddol HECW - cliciwch yma (Dolen i adroddiad HECW). 

Datblygwyd HECW yn dilyn blynyddoedd lawer o blannu hadau; mae'r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu ym maes treftadaeth wedi cael ei gydnabod ers tro. O dan reolaeth fedrus Ruth Rees a chefnogaeth yr holl bartneriaid, blodeuodd y cynllun - gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant ym maes treftadaeth ledled Cymru ac ar bob lefel sgiliau. Mae argyfwng Covid-19 wedi arwain at gwtogi'r prosiect yn gynnar. Gobeithio y bydd y gwreiddiau cryf sydd wedi'u datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn cefnogi twf newydd yn fuan. Cadwch lygad am y datblygiadau diweddaraf!!