10 o'r Argymhellion Gorau ar gyfer cynnal eich hen adeilad

Ionawr 2021

Nid yw byth yn rhy hwyr yn y flwyddyn i wneud gwaith cynnal a chadw ar eich adeilad.  Hyd yn oed os ydych wedi paentio'ch ffenestri yn y gwanwyn a chlirio'ch draeniau tir yn yr hydref, mae'n bosibl bod stormydd y gaeaf wedi achosi llechen i lithro neu ddatgelu bod cwteri'n gollwng dŵr. 

Mae'r 10 argymhelliad hyn yn rhestr wirio ar gyfer gwneud gwaith drwy gydol y flwyddyn, ond mae nawr yn amser da i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod felly beth am edrych ar ganllaw cynnal a chadw'r Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol/y Gymdeithas Gwarchod Adeiladau Hynafol 'A Stitch in Time’.  Mae'r canllaw yn cynnwys rhestr wirio ddefnyddiol iawn o 'Ble i Edrych', 'Beth i Chwilio amdano' a 'Beth i'w Wneud' a rhagor o wybodaeth am ble y gallwch ddod o hyd i ragor o gymorth a gwybodaeth os oes angen.

Mae Canolfan Tywi hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer hyfforddiant a gwybodaeth am gynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau hanesyddol.  Cyn diwedd mis Mawrth eleni i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu rydym yn darparu'r Dyfarniad Lefel 3 2 ddiwrnod mewn Atgyweirio a Chynnal a Chadw Adeiladau Traddodiadol (cyn 1919) ar-lein am ffi lawer is.  Rydym yn gwneud hyn ar ran Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru, ac mae wedi bod yn bosibl gyda chymorth ariannol Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru. 

Os ydych yn berchen ar hen adeilad efallai y bydd gennych fwy o ddiddordeb yn y cwrs 1 diwrnod Canllaw i Gynnal a Chadw ac Atgyweirio Hanfodol eich Eiddo Hanesyddol a gynhelir ar 8 Ebrill. 

Rydym yma i'ch cefnogi i ddiogelu treftadaeth Cymru felly cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch.

https://ihbc.org.uk/stitch/Stitch%20in%20Time.pdf