Technegau arbenigol
Canolfan Tywi
POAMae deall cynlluniau, lluniadau a manylebau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud yn ôl gofynion y contract. Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddehongli lluniadau'n gywir wrth baratoi ar gyfer unrhyw waith newydd neu waith atgyweirio i adeileddau gwaith maen.
Bydd cynnwys y cwrs yn cwmpasu:
- Darllen o gynlluniau a manylebau
- Lledaenu gwybodaeth, nodi anghysondebau a'r gweithdrefnau ar gyfer camau pellach
- Darluniau wrth raddfa
- Gosod datymau a strwythurau gwaith maen cymhleth
- Offer mesur ac offerynnau hen a newydd.
Hyd
2 ddiwrnod
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cwblhau NVQ2 neu 3 mewn gwaith maen neu waith brics neu sydd â phrofiad cyfatebol o weithio yn y grefft gwaith maen.
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau sydd wedi'u cofrestru â CITB yn gymwys i wneud cais am arian gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.
Cod GET CITB a haen grant
GET1100 - haen grant 1