Gwaith coed wrth fainc; mewn gweithdy ac ar safle
Canolfan Tywi
POANid yw gwaith coed traddodiadol wedi newid fawr ddim dros y canrifoedd; mae'r pren a'r offer a ddefnyddir ar gyfer torri, llunio a ffurfio'r uniadau, gan ddefnyddio elfennau pren yn unig yn bennaf, yn parhau i fod ar ffurf a fyddai'n gyfarwydd i'n cyndadau.
Y dulliau o uno a'r modd y cânt eu defnyddio mewn uniadau penodol sy'n gyfrifol am ymddangosiad ffisegol uniad, ynghyd â'i gryfder a'i wytnwch.
Nod y cwrs yw cyflwyno dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o'r technegau traddodiadol hynny a fydd yn galluogi ymgeisydd i gynhyrchu ac atgyweirio ystod eang o gynnyrch gwaith coed, a hynny trwy gyfuniad cytbwys o addysgu yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gweithdy.
Bydd yr ymgeiswyr yn gweithio ar brosiect adfer go iawn (er enghraifft, atgyweirio ac ailosod ffenestri codi traddodiadol) a wneir ar y safle ac yn y gweithdai.
Mae'r deilliannau dysgu yn cynnwys:
- Offer y grefft; dewis, storio, miniogi, gofal a chynnal a chadw
- Siapio a melino
- Dealltwriaeth o fanylion coed treftadaeth
- Gwybodaeth am atgyweiriadau gwaith coed cyffredinol ar y safle; mesur a sgrifellu
- Gwneud a defnyddio jigiau
- Gweithgynhyrchu cynhyrchion gwaith coed wrth fainc, gan gynnwys rhai cymhleth ac wedi'u llunio'n benodol, gan ddefnyddio hen offer a rhai newydd
- Gosod gwaith coed wrth fainc (mewn cyd-destun hanesyddol)
Hyd
5 diwrnod
Ar gyfer pwy mae'r hyfforddiant yn addas?
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cwblhau NVQ2 neu 3 mewn gwaith coed neu sydd â phrofiad cyfatebol o weithio yn y grefft gwaith coed.
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau sydd wedi'u cofrestru â CITB yn gymwys i wneud cais am arian gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.
Cod GET CITB a haen grant
GET2137 - haen grant 3