Fframwaith pren trwm
Canolfan Tywi
POANid yw coed a'r offer llaw a ddefnyddir i dorri a ffurfio uniadau wedi newid llawer dros y canrifoedd. Nod y cwrs hwn yw addysgu ymgeiswyr am ddatblygiad a hanes strwythurau fframwaith pren, dewis a chyfeiriad pren priodol, nodi diffygion, a deall pryd y mae angen atgyweiriadau a sut i'w cadw neu eu hatgyweirio'n effeithiol.
Bydd yr ymgeiswyr yn cael prosiect adfer a bydd y gwaith dysgu a'r gwaith ymarferol yn seiliedig arno.
Bydd cynnwys y cwrs yn cwmpasu:
- Adnabod cydrannau
- Cadw neu adfer ar y safle; derw neu fframweithiau tebyg
- Miniogi offer y grefft, gofalu amdanynt a'u cynnal a'u cadw
- Cyfeiriad pren, gosod allan a sgrifellu llinell blwm
- Cynhyrchu mathau o uniadau a dulliau o dorri
- Hanes fframwaith pren trwm
- Dewis pren a chulhad
Hyd
5 diwrnod
Ar gyfer pwy mae'r hyfforddiant yn addas?
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cwblhau NVQ2 neu 3 mewn gwaith coed neu sydd â phrofiad cyfatebol o weithio yn y grefft gwaith coed.
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau sydd wedi'u cofrestru â CITB yn gymwys i wneud cais am arian gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.