Ffenestri codi traddodiadol: cynnal a chadw ac uwchraddio
Flaxmill Maltings Amwythig
14/03/2019
Trosolwg:
Cwrs diwrnod yw hwn sy’n rhoi cyflwyniad i ffenestri codi traddodiadol ac yn edrych ar rai diffygion cyffredinol ac atgyweiriadau syml, ynghyd â ffyrdd o wella effeithlonrwydd thermol ffenestri pren heb orfod gosod ffenestri amnewidiad.
Cynnwys y cwrs:
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn deall:
- Ffenestri codi pren traddodiadol
- Sut mae tynnu sash, gosod cortyn newydd a sicrhau’r cydbwysedd
- Egwyddorion cadwraeth
- Datsaernïo, uniadau traddodiadol a rhodiau
- Dulliau atgyweirio
- Gwydr, pwti a phaent
- Gwella effeithlonrwydd thermol
Pwy ddylai fynd ar y cwrs?
Mae’r cwrs hwn yn addas i weithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig, seiri coed,
ymgynghorwyr, swyddogion cynllinio a chadwraeth a swyddogion rheoli adeiladu
Cyllid y cwrs
Cynigir y cwrs hwn yn rhad ac am ddim diolch i gyllid gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber ar gyfer
rhaglen sgiliau treftadaeth ‘Historic England’ yn Flaxmill Amwythig.
Mae ‘Historic England’ yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Amwythig a Chyfeillion y Flaxmill ar
warchod ac adfywio adeilad ffrâm haearn cyntaf y byd a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri
I archebu cwrs cwblhewch ein ffurflen archebu