Ffenestri codi - gwaith atgyweirio ymarferol
Canolfan Tywi
15-17 Mehefin 2022
£75Mae colli ffenestri traddodiadol o'n hadeiladau hŷn yn un o'r prif fygythiadau i'n treftadaeth. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar atgyweirio ffenestri codi llithrol traddodiadol.
Y nod yw dangos pwysigrwydd ffenestri traddodiadol drwy edrych ar y modd y dylanwadodd ffasiwn a datblygiad technegol ar eu dyluniad dros y canrifoedd. Darperir cyngor manwl ac ymarferol ynghylch y gwaith o'u cynnal a chadw, eu hatgyweirio a gwneud gwelliannau thermol.
Dros y tri diwrnod o hyfforddiant, drwy theori yn yr ystafell ddosbarth ynghylch gwaith atgyweirio a chynnal a chadw a sesiynau gweithdy ymarferol, byddwch yn cael dealltwriaeth o'r canlynol:
- Hanes ffenestri codi llithrol pren traddodiadol
- Tynnu ffenestri codi, ailosod cordiau a chydbwyso
- Egwyddorion cadwraeth
- Dadadeiladu, uniadau a rhodiau traddodiadol
- Dulliau atgyweirio
- Dewis o ddeunyddiau ar gyfer atgyweirio
- Gwydr, pwti a phaent
- Gwella effeithlonrwydd thermol
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n gymwys mewn gwaith coed, saernïaeth a choedwaith. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr o Sir Gaerfyrddin.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mawrth 2022.